Un o hoelion wyth Llanbadarn Fawr ac Aberystwyth, David Greaney, fydd Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a gynhelir ddydd Sadwrn 2 Mawrth 2024. Mae’r Parêd yn cydnabod ei gyfraniad i fywyd diwylliannol, cymdeithasol a Chatholig Aberystwyth a’r byd Celtaidd. Er ei eni yn Llundain, magwyd ef yn Llanbadarn yn fab i’r diweddar Donal ac Enid Greaney. Gwyddel o ddinas Limerick oedd ei dad a Chymraes leol oedd ei fam, hithau yn perthyn i un o hen deuluoedd Llanbadarn (teulu’r Howells).
Rhoddwyd braint ‘Tywysydd’ i unigolyn neu gwpl ym mhob gorymdaith Gŵyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013 a’r Tywysydd sydd yn arwain y Parêd drwy dref Aberystwyth. Mae’n arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i iaith a diwylliant Cymru.
Mab Lleol
Addysgwyd David yn Ysgol Comins Coch ac yna Ysgol Ardwyn. Yn 1974, aeth i Lundain lle graddiodd mewn Ffiseg Gymhwysol (Applied Physics). Yn 1979 dechreuodd ar yrfa dysgu Ffiseg, Cemeg, a Mathemateg mewn ysgolion uwchradd yn Llundain. Mae wedi gweithio ym Mryste ac yn Reading a bu’n dysgu yn rhan amser am gyfnod byr yng Ngharchar Reading.
Yn 1996 dychwelodd i fro ei febyd gan ei fod yn dioddef yn arw gan arthritis (ac wedi bod yn dioddef ers dyddiau coleg). Yn 1999 derbyniodd swydd weinyddol yn y Llyfrgell Genedlaethol, lle bu tan iddo ymddeol yn 2015.
Cylch Catholig
Mae’n addoli yn Eglwys Merthyron Cymru, Penparcau, ac yn weithgar iawn yn yr eglwys.
Ef yw Is‐gadeirydd y Cylch Catholig (corff swyddogol yr Eglwys Gatholig Rufeinig yng Nghymru ar gyfer Catholigion Cymraeg eu hiaith). Mae’n un o swyddogion Gweithgor Padarn Sant, grŵp sy’n gweithio i wneud pobl ein bro a Chatholigion Cymru yn fwy ymwybodol o hanes Padarn Sant. Mae’n weithgar gyda changen Aberystwyth yr SVP (Cymdeithas Sant Vincent de Paul) sy’n estyn cymorth i’r anghenus yn ein hardal ac yn cyfrannu at brosiectau rhyngwladol yn India ac yn Swdan. Mae’n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gatholig Padarn Sant.
Mae’n adnabyddus yn mhentref Llanbadarn fel un o Gynghorwyr Cymuned Ward Sulien ar Gyngor Llanbdarn Fawr ac fel un o arweinwyr Clwb Henoed y pentref. Bydd llawer, wrth gwrs, yn cysylltu David â’r Angor, papur bro Aberystwyth a’r cylch.
Celt i’r Carn!
Y llynedd, cafodd ei ethol yn Ysgrifennydd Rhyngwladol y Gyngres Geltaidd, y mudiad sy’n hybu gwybodaeth am ieithoedd a diwylliannau’r chwe gwlad Geltaidd. Yn 2019 fe’i urddwyd yn Bardh dre Enor (Bardd Anrhydeddus) o Orsedd Cernyw am ei waith yn meithrin cysylltiadau rhwng Cernyw a’r gwledydd Celtaidd eraill yn y Gyngres Geltaidd. ‘Steren Godha’ (Seren Wib) yw ei enw barddol.
Meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd y Parêd:
“Rydym yn hynod falch i David dderbyn ein cais i fod yn Dywysydd eleni. Mae ei gyfraniad yn hyrwyddo Cymreictod cylch Aberystwyth a’i holl waith dros iaith a diwylliant Cymru, y gwledydd Celtaidd ac o fewn yr Eglwys Gatholig yn ogystal â gyda phobl o bob cefndir yn Aberystwyth yn dyst i’w weithgaredd diflino. Wedi cyfnod yn astudio ac yna dysgu a gweithio yn Lloegr, roedd dychweliad David i fro ei febyd yn gaffaeliad mawr i’r cylch – gwych fyddai gweld rhagor o bobl yn dychwelyd adre wedi cyfnod oddi cartref.”
Meddai David:
“Peth annisgwyl oedd y gwahoddiad i fod yn Dywysydd 2024. Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i Siôn a Phwyllgor y Parêd am fy marnu yn deilwng o’r fath anrhydedd. Fel brodor â diddordeb byw yn hen, hen hanes ardal Aberystwyth o gyfnod Padarn Sant i’r dydd hwn bydd arwain gorymdaith ein nawddsant, Dewi, yn anrhydedd fawr. Mae’r seiliau a osodwyd dros y canrifoedd yn cryfhau cymdeithas Aberystwyth – yn ei holl amrywiaeth – heddiw. Dewch yn llu i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant ar strydoedd y dref!”
Llwybr yr Orymdaith:
Cynhelir Parêd 2024 ddydd Sadwrn 2 Mawrth 2024. Bydd yn cychwyn o Gloc y Dre, yna i lawr i waelod y Stryd Fawr, wedyn troi i’r chwith ar gornel Banc Barclays am Ffordd y Môr ac yn syth am Lys-y-Brenin. Bydd top y rhannau o Stryd y Baddon a Ffordd y Môr sy’n ffinio â Llys y Brenin ar gau i gerbydau am gyfnod y Seremoni.
Noddwyr:
Mae’r trefnwyr yn hynod ddiolchgar am nawdd – Cyngor Tref Aberystwyth am eu nawdd a chefnogaeth hael, a Chlwb Cinio Aberystwyth am eu nawdd a chymorth.
Tywyswyr Blaenorol:
Mae David yn dilyn yn ôl traed: Wyn Mel (2023); Robat ac Enid Gruffudd ‘Y Lolfa’ (2022); Meirion Appleton ‘Mr Pêl-droed’ (2020); Dilys Mildon, perchennog bwyty enwog Gannets (2019); yr awdur, cyhoeddwr a gweithredwr, Ned Thomas (2018); y diddanwr a’r codwr arian Glan Davies (2017); yr artist Mary Lloyd-Jones (2016); yr awdur a’r cyn-brifathro Gerald Morgan (2015); sylfaenwyr busnes Siop y Pethe, Megan a Gwilym Tudur (2014) a’r cerddor, awdur a chynhyrchydd teledu, Dr Meredydd Evans (2013). Fel Tywysydd bydd David yn gwisgo sash hardd a wnaed yn unswydd i’r Parêd gan Caroline Goodband o Fachynlleth ac sy’n cynnwys enwau cyn dywyswyr. Yn dilyn y traddodiad o Wlad y Basg, caiff David hefyd rodd o ffon gerdded wedi ei cherfio gan y diweddar Hywel Evans gynt o Gapel Dewi.