Dave Jones yw arwr Aber

Aberystwyth 1 – 1 Caerdydd dan 21 (Aberystwyth yn ennill 4-1 ar giciau o’r smotyn) 30/11/24

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Aberystwyth v Caerdydd dan 21

Flint yn sgorio o’r smotyn

Aberystwyth v Caerdydd dan 21

Dave Jones yn arbed cic o’r smotyn

Aberystwyth v Caerdydd dan 21

Dave Jones yn dathlu gyda’i gyd-chwaraewyr

Gyda’r sgôr yn gyfartal wedi 90 munud roedd yn rhaid mynd i giciau o’r smotyn i gael enillydd.  Dyma Dave Jones, golwr Aber, yn camu i’r bwlch ac arbed dwy gic i sicrhau lle Aberystwyth yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG. Doedd neb wedi rhagweld y tensiwn a’r cyffro ar y diwedd.

Prin iawn oedd y cyfleon i’r ddau dîm yn ystod y 90 munud. Roedd rhan fwyf o’r ergydion o bell ac yn hedfan dros y trawst neu heibio’r postyn. Pan oedd yr ergydion ar y targed, doedd dim digon o bŵer i drafferthu’r ddau gôl-geidwad.

Yn yr hanner cyntaf roedd Aber yn edrych yn fwy peryglus, gyda’r blaenwyr yn arbennig yn rhoi pwysau cyson ar amddiffynwyr Caerdydd i greu camgymeriadau. Ac yn wir, camgymeriad arweiniodd at y gôl gyntaf. Blerwch llwyr rhwng gôl-geidwad Caerdydd a’i amddiffynnwr wrth gymryd cic gôl yn arwain at Dylan Lawlor yn llawio’r bêl. Cic o’r smotyn i Aber. Sgoriodd Niall Flint gyda’r gic wedi 40 munud i roi Aber ar y blaen o gôl i ddim. A dyna’r sgôr ar yr hanner.

Dechreuodd yr ail hanner yn ddigon tebyg. Caerdydd yn cael digon o feddiant ond prin oedd y bygythiad i Dave Jones yn y gôl. Aber ar y llaw arall yn edrych i wrthymosod yn gyflym ond unwaith eto prin oedd y gwir gyfleon.

Wrth i’r ail hanner fynd yn ei flaen dechreuodd Aber amddiffyn yn ddyfnach ac roedd Caerdydd yn dechrau edrych yn beryg lawr yr asgell chwith gyda chroesiadau cyson i’r canol. Ond roedd amddiffyn Aber yn gadarn ac yn atal unrhyw ergydion. Roedd pethau’n edrych yn dda i Aber.

Ond gyda’r cloc yn agosáu a 90 munud torrwyd calonnau Aber wrth i Troy Perrett ddod a Chaerdydd yn gyfartal. Ergydiodd i’r rhwyd o gornel y cwrt chwech. A bu bron i Gaerdydd ennill y gêm yn yr amser am anafiadau. Roedd angen arbediad da gan Dave Jones i atal ergyd Nyakuhwa i sicrhau fod y gêm yn gorffen yn gyfartal.

Felly ymlaen at y ciciau o’r smotyn a chyfle i Dave Jones ddangos ei brofiad. Sgoriodd Thorn, Arnison ac Evans y tair cic gyntaf i Aber. Ond wedi i Davies sgorio’r gyntaf i Gaerdydd, camodd Dave Jones i’r chwith ac arbed ergydion Giles a Spears. Camodd Devon Torry ymlaen yn hyderus i sgorio’r bedwaredd gic i Aber gan sicrhau maen nhw fydd yn gwynebu Y Barri neu’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG. Rhywbeth i’r cefnogwyr edrych ymlaen ato a hwb i Corbisiero yn ei ail gyfnod fel rheolwr Aber.

Gellir gweld yr uchafbwyntiau ar dudalen Facebook Sgorio: https://fb.watch/wb7Snd2YU0/

Ymunwch â’r sgwrs

Huw Llywelyn Evans
Huw Llywelyn Evans

Rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG: Aberystwyth v Y Seintiau Newydd
7:45, Nos Wener, Chwefror 28
Parc Latham, Y Drenewydd