Chwech yn ymgeisio yn isetholiad ward Tirymynach

Isetholiad Cyngor Sir Ceredgion ar y 17ain o Hydref 2024

Mererid
gan Mererid

Mae 6 ymgeisydd wedi cyflwyno eu henwau erbyn y dyddiad cau ar yr 20fed o Fedi i sefyll yn isetholiad ar gyfer ward Tirymynach fis nesaf.

Daw hyn yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Paul Hinge fis Awst eleni.

Yn nhrefn yr wyddor, dyma’r ymgeiswyr: –

James Ralph Cook- Llafur Cymru

Jonathan Evershed – Plaid Cymru

Harry Hayfield – Plaid Werdd Cymru

Gareth Lewis – Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Jack Parker – Reform UK

Ethan James Terry – Plaid Geidwadol Cymru

O’r uchod, dim ond Jonathan Evershed a Gareth Lewis sydd yn byw yn y ward sydd yn cynnwys Bow Street, Clarach, Dole, Pen-y-garn a Llangorwen.

Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ddydd Iau, Hydref 17 a hynny yn Neuadd Goffa Rhydypennau (gwelir uchod yn y llun).

Gall unrhyw un sy’n byw yn y ward ac sydd heb gofrestru i bleidleisio gofrestru hyd at 11.59yh nos Fawrth, Hydref 1.

I wneud cais i bleidleisio drwy’r post, bydd angen llenwi ffurflen gais a’i dychwelyd i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5yp ddydd Mercher, Hydref 2.

Rhaid gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy erbyn 5yp ddydd Mercher, Hydref 6.

Does dim angen dogfen adnabod â llun ar gyfer yr isetholiad yma.

Dweud eich dweud