Y gŵr busnes, artist a ‘thad Mr Urdd’, Wynne Melville Jones (Wyn Mel), fydd Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a gynhelir am 1.00pm ddydd Sadwrn, 4 Mawrth 2023.
Mae’r Parêd yn cydnabod ei gyfraniad i fudiad yr Urdd yn genedlaethol ac yn arbennig ei gyfraniad yn lleol fel gŵr busnes a hyrwyddwr y Gymraeg. Ar ôl gweithio i’r Urdd, sefydlodd Wyn gwmni cysylltiadau cyhoeddus Strata Matrix a bu’n rhedeg Deli Cymru ar Rodfa’r Gogledd hefyd am gyfnod. Bu’n Gadeirydd yr Urdd ac mae nawr yn Llywydd Anrhydeddus.
Daw Wyn yn wreiddiol o Dregaron, ond mae’n byw yn Llanfihangel Genau’r Glyn (Llandre) ers blynyddoedd lawer ac yn artist uchel ei barch.
Dewiswyd ‘Tywysydd’ er anrhydedd ym mhob gorymdaith Gŵyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013, a’r Tywysydd fydd yn arwain y Parêd drwy dref Aberystwyth. Mae’n arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i iaith a diwylliant Cymru.
Roedd gan gwmni Strata (Strata Matrix yn ddiweddarach), a sefydlwyd gan Wyn yn 1979, swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd. Hwn oedd y cwmni cysylltiadau cyhoeddus dwyieithog cyntaf, a bu’n gweithredu am 30 mlynedd.
Bu Wyn hefyd yn weithgar dros y Gymraeg drwy fod yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn Golwg, a phapur bro ‘Y Tincer’, a bu’n ymgyrchu am dros ddeng mlynedd i ennill statws i enw gwreiddiol Llandre, sef Llanfihangel Genau’r Glyn, yn enw swyddogol. Bu’n ganolog hefyd yn sefydlu Banc Bro yn y gymuned fel adnodd i godi arian a thynnu’r gymuned at ei gilydd. Mae llwybr barddoniaeth cyhoeddus – Llwybr Llên Llanfihangel Genau’r Glyn (Poetry Path yn Saesneg) wedi ei ddatblygu mewn coedlan o’i eiddo i glodfori traddodiad barddol y fro.
Ac yntau’n gyn-fyfyriwr Celf, dychwelodd at ei ddiddordeb byw mewn celfyddyd gain ac ar ôl ymddeol ailgydiodd yn y brwsh paent wedi bwlch o ddeugain mlynedd. Bu’n gynhyrchiol iawn ac mae wedi llunio 450 o ddarluniau gwreiddiol, ac mae ei waith i’w weld ledled Cymru mewn cartrefi ac orielau celf. Mae ei waith wedi teithio ymhell ac mae ei ddarlun o gapel Soar-y-mynydd yn eiddo i gyn Arlywydd yr Unol Daleithiau Jimmy Carter a’i lun o Graig Elvis, Eisteddfa Gurig, yn Gracelands, Tennessee, hen gartref y ‘Brenin Roc a Rôl’, sydd bellach yn amgueddfa a chreirfa i gofio Elvis
Meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd y Parêd:
“Rydym yn hynod falch fod Wyn Mel wedi derbyn ein cais i fod yn Dywysydd eleni. Mae ei gyfraniad yn hyrwyddo Cymreictod gyfoes, boed wrth greu Mr Urdd neu ei waith yn sefydlu a rhedeg busnes Strata Matrix a nawr fel artist, yn hynod. Dangosodd sefydlu Strata Matrix fod modd sefydlu busnes cyfoes yma yn Aberystwyth a hynny gyda’r Gymraeg yn ganolog – nad iaith ar gyfer un math o fusnes oedd y Gymraeg. Mae wedi gweithio am ddegawdau’n cyflogi pobl ac yn hyrwyddo Cymru a Chymreictod.”
Meddai Wyn:
“Mae’r gwahoddiad i arwain gorymdaith y Parêd drwy strydoedd Aberystwyth yn anrhydedd fawr i mi ac rwy’n teimlo’n wylaidd iawn wrth feddwl fy mod yn llinach y cewri a’r arloeswyr sydd wedi arwain yr achlysur ers 2013 – pobol o sylwedd, o alluoedd a thalentau arbennig a phob0l sydd wedi cadw’r fflam yn fyw
“Mae Aberystwyth yn arwyddocaol iawn o safbwynt yr Iaith Gymraeg a Chymreictod – tref yr ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru, tref protest Pont Trefechan, tref diwylliant a chartref cynifer o sefydliadau a mudiadau allweddol ein cenedl, ac mae yna gyflogaeth Gymraeg sylweddol yn y dre a’r ardal.
“Mae’r Parêd yn achlysur hapus a hwyliog ac yn gyfle i ddathlu Dewi Sant ac i bawb ohonom i ddod at ein gilydd i gadw sŵn ac i floeddio ein Cymreictod yn y priffyrdd a’r caeau ac i rannu ein balchder yn ein cenedligrwydd gyda holl bobol y dre.
“Cerddwn ymlaen gyda’n gilydd – dewch gyda ni.”
Dilynwch y Parêd ar Facebook a’r Parêd ar Twitter.