Trip i Langrannog

Llwyn yr Eos ar daith gynta’r flwyddyn

gan Catrin Pugh-Jones

Dechrau arbennig i’r tymor i blant blwyddyn 3 a 4 Ysgol Llwyn yr Eos wrth iddynt dreulio noson yn Llangrannog.

Bant â 34 o blant a 4 aelod o’r staff i brofi amrywiaeth o weithgareddau yng nghanol y tywydd gwyntog a gwlyb. Aethom ar y cwods, y trampolîn, y rhaffau isel ag uchel, trio’r saethyddiaeth ac i orffen y trip, gwibgartio.

Braf oedd gweld y Gwersyll yn edrych yn smart iawn gyda golygfa odidog o’r cantîn (trueni am y tywydd).

Mae’r plant wedi dychwelyd i’r ysgol yn llawn storiau am eu profiadau.

Diolch i’r Urdd a’r staff ardderchog.