Steddfota brwd ym Mhenrhyn-coch

Penwythnos prysur yn neuadd y Penrhyn!

gan Anwen Pierce
morgan-owen

Enillydd y Gadair oedd Morgan Owen o Rydyfelin.

drudwns

Dyma Drudwns Aber, enillwyr y parti llefaru, yn eu gwisgoedd hyfryd!

elin-penrhyn

Enillydd Tlws yr Ifanc oedd Elin Pierce Williams, Bow Street

Ar ôl bwlch o dair blynedd oherwydd Covid cynhaliwyd yr Eisteddfod eto yn neuadd Penrhyn-coch, 21 a 22 Ebrill. Cafwyd cystadlu brwd a chynulleidfa deilwng, a phawb yn amlwg yn mwynhau bod yn ôl yn steddfota unwaith yn rhagor. Roedd yn arbennig o braf gweld cyfeillion o Wcráin yn y gynulleidfa dros y ddeuddydd.

Y beirniaid eleni oedd: Bethan Ruth, Machynlleth, a Carwyn Hawkins, Caerdydd, ar y nos Wener gyda’r plant. Ar y dydd Sadwrn, Arfon Williams, Cwmtirmynach, Ian Lloyd Hughes, y Bala ac Emyr Lewis, Aberystwyth oedd yn beirniadu. Cyfeiliwyd gan Lona Phillips, Abermagwr.

Bu’r arweinyddion lleol wrthi’n ddiwyd a threfnus dros y ddau ddiwrnod, a rhoddwyd croeso mawr i’r llywyddion, sef Mark Roberts, Caerdydd (neu ‘Matthew’ yn Pobol y Cwm), Gill Saunders Jones, Llandre, a Lowri Guy, Caerdydd. Y pwyllgor prysur oedd Marianne Jones-Powell (cadeirydd); Ceris Gruffudd (ysgrifennydd); Llio Adams (is-ysgrifennydd), a’r trysoryddion: Eleri James ac Elin Haf Williams.

Llongyfarchiadau calonnog i bawb o bob oedran wnaeth gystadlu; mae’r canlyniadau llawn i’w gweld ar wefan Trefeurig (trefeurig.cymru). O ran y prif wobrau, enillwyd Tlws yr Ifanc gan Elin Pierce Williams, Bow Street, ar y nos Wener, a’r Gadair hyfryd gan Morgan Owen, Rhydyfelin. Llongyfarchiadau mawr i’r ddau. Mae cryn edrych ymlaen yn barod at Eisteddfod 2024!