Un o drysorau cudd Aberystwyth yw gwarchodfa natur Parc Natur Penglais (PNP) ar ochr ogleddol y dre. Mae’r golygfeydd o’r llwybrau yno yn ogoneddus ond mae’n syndod cymaint o drigolion y dref sydd ddim yn ymwybodol o’i fodolaeth. Gallwch ymuno â’r rhwydwaith o lwybrau o sawl man, gan gynnwys gyferbyn â’r Cŵps oddi ar Ffordd y Gogledd, Ffordd y Bryn, Cae Melyn, Dan-y-coed, Ffordd Bryn-y-môr, neu Bentre Jane Morgan. Mae cofnodwyr data wrth dri mynediad yn dangos fod dros 42,750 wedi mynd trwy’r gatiau hyn. Yn anffodus, nid oedd y cofnodwr data ger tŷ’r prifathro yn gweithio ac mae’n debygol y byddai y nifer yn llawer uwch.
Gofalir ar ôl PNP gan gymdeithas o drigolion sy’n ffinio â’r warchodfa natur ac mae’r criw gweithgar yn cynnal a chadw’r ardal. Rhwng mis Ionawr a’r Hydref y llynedd fe wnaeth y grŵp gefnogi 163 awr o waith cynnal a chadw.
Yn ddiweddar, y dasg oedd ailwynebu’r llwybr troed rhwng Ffordd Bryn-y-môr a’r chwarel. Darparwyd y deunyddiau gyda grant gan y Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, y mae Cyngor Ceredigion wedi’i sicrhau. Diolch yn arbennig i Wirfoddolwyr Cadwraeth Prifysgol Aberystwyth ac i Glwb Golff Aberystwyth am hwyluso cludo wyth tunnell o gerrig i leoliad cyfleus ger y llwybr.
Da chi, os nad ydych wedi cerdded trwy PNP, yna gwnewch hynny eleni – mae’r carped o glychau’r gog yn rhywbeth na ddylech ei golli.
https://www.facebook.com/ParcNaturPenglais
Y lluniau trwy garedigrwydd y Cynghorydd Alun Williams