Leinyp arbennig Cicio’r Bar

Mererid Hopwood a Gwilym Bowen Rhys yn westeion ar 9 Chwefror

Eurig Salisbury OMB
gan Eurig Salisbury OMB

Bydd noson boblogaidd Cicio’r Bar yn ei hôl am y tro cyntaf yn 2023 ar nos Iau 9 Chwefror gyda leinyp arbennig – cerddi gan y prifardd Mererid Hopwood a chaneuon gan y trwbadŵr Gwilym Bowen Rhys.

Mae Cicio’r Bar yn noson reolaidd o gerddi a cherddoriaeth a drefnir gan y beirdd lleol Eurig Salisbury a Hywel Griffiths.

Bydd y noson yn dechrau am 7.45 yn y Stiwdio yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Yn ogystal ag ambell gerdd gan Eurig a Hywel, bydd gwledd o gerddi gan Mererid, a gyhoeddodd yn ddiweddar Cynghanedd i Blant (Cyhoeddiadau Barddas), cyfrol sy’n cyflwyno’r hen grefft i genhedlaeth newydd sbon.

Bydd cynganeddion yn frith yng nghanu Gwilym hefyd, a gyhoeddodd albwm newydd ddiwedd y llynedd, Detholiad o Hen Faledi 2. Bydd yn braf croesawu Gwilym yn ôl i Aber gyda chynulleidfa fyw ar ôl iddo ganu ar ffilm Cicio’r Bar a gynhyrchwyd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol AmGen yn 2021.

Prynwch eich tocynnau fan hyn!