Gyda’r ysgolion yn ail-ddechrau, mae Canolfan Arad Goch yn brysur iawn gyda nifer o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau wedi eu cynllunio.
Yn 2023, lansiodd Tîm Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu Ceredigion gystadleuaeth ffotograffiaeth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed sy’n byw yng Ngheredigion.
Roedd 91 o geisiadau, a bu’n dipyn o sialens i ddewis y deuddeg delwedd fuddugol. Mae’r lluniau buddugol mewn arddangosfa yng Nghanolfan Arad Goch sydd ar agor 9:30-4:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ymwelwch â Chanolfan Arad Goch i weld yr holl luniau hardd.
Clybiau Drama BlAGur ac Agwedd
Bydd Clwb Drama BlAGur Bach yn dechrau eto ar 23/9/23. Clwb ar gyfer plant ym mlynyddoedd ysgol 2 a 3 yw BlAGur Bach – cyfle hyfryd i actio, chwarae gemau drama, cymeriadu, magu hyder a gwneud ffrindiau! Cwrdd bob dydd Sadwrn o 10yb – 11:30yb ar gyfer BlAGur Bach (Bl 2-3)
BlAGur Mawr yw clwb drama cyfrwng Cymraeg wythnosol i blant 9-11 oed (blwyddyn 4 i 6). Mae’n cwrdd bob dydd Llun rhwng 4yh – 5.30yh yn ystod tymor ysgol yng Nghanolfan Arad Goch.
Yn olaf, mae clwb drama cyfrwng Cymraeg wythnosol i blant 11-16 oed (Bl 7-11) Agwedd. Mae’n cwrdd bob pnawn Mercher 4pm-5:30pm yn ystod tymor ysgol yng Nghanolfan Arad Goch.
Cysylltwch ag anne@aradgoch.org neu ffoniwch 01970 617998 er mwyn ymuno.
GŴYL AGOR DRYSAU
Gŵyl Agor Drysau, a drefnir gan Gwmni Theatr Arad Goch, yw gŵyl theatr ryngwladol Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.
Nod yr ŵyl yw rhoi’r cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru weld rhai o gynyrchiadau theatr gorau’r byd yn ogystal â rhoi cyfle i raglenwyr a chynhyrchwyr rhyngwladol brofi cyfoeth celfyddydau perfformio Cymru. Mae’r ŵyl yn ffenest siop ar gyfer gwaith o Gymru gyda llawer o gynyrchiadau yn y gorffennol wedi cael eu gwahodd i deithio’n rhyngwladol yn ei sgil.
Maent yn chwilio am waith creadigol ar gyfer yr Ŵyl, felly cysylltwch os oes gennych unrhyw syniadau.
Mae’r Ŵyl yn cael ei chynnal am y 10fed tro ar 12-16 Mawrth 2024. Ceir gwybodaeth am yr ŵyl ddiwethaf ar www.agordrysau.cymru
BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN?
Mae Theatr Arad Goch hefyd yn perfformio y ddrama ‘Ble Mae’r Dail yn Hedfan’ o gwmpas ysgolion Cymru y tymor hwn. Isabella Colby Browne a Gwern Phillips sydd yn perfformio.