Yn eisiau: Meddyg i feddygfa Borth

Bydd meddygfa Borth yn cau os na deir o hyd i feddyg teulu sydd yn dymuno her newydd

Mererid
gan Mererid

Rydym i gyd yn ymwybodol yng Ngogledd Ceredigion o’r gofal ardderchog sydd yn cael ei ddarparu ym meddygfa’r Borth.

Ers blynyddoedd, mae’r feddygfa wedi cael ei chynnal gan ddau bartner ond ar hyn o bryd Dr Sue Fish yw’r unig feddyg teulu yno, ac mae wedi nodi ei bwriad i ymddeol yn fuan. Yn ôl y gyfraith, bydd rhaid iddi ddychwelyd y cytundeb ar gyfer darparu gwasanaethau meddygon teulu yn ein hardal i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDD).  Yna bydd y Bwrdd Iechyd yn penderfynu beth ddylai ddigwydd i’r feddygfa a’i gleifion.

Er bod y feddygfa yn cyflogi sawl gweithiwr iechyd proffesiynol arall, mae’r cytundebau presennol yn gofyn i feddyg teulu fod ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:00am a 6:30pm.

Er i’r practis hysbysebu am bartner newydd ers nifer o flynyddoedd, cafwyd unrhyw ddiddordeb.

Mae deiseb wedi ei lansio gan grŵp Borth 2030, sydd wedi trafod gyda staff y feddygfa a’r Cyngor Cymuned ac mae modd i chi arwyddo ar-lein. Mae’r ddeiseb hefyd ar gael yn Premier, Nisa a Chaffi Cletwr.

Ydych chi yn nabod meddyg teulu fyddai yn hoffi dychwelyd i Geredigion i ardal hyfryd gyda chleifion diolchgar dros ben? Beth am i ni gyd annog rhywun, gan obeithio y daw meddyg i achub meddygfa Y Borth.