Mae Archifdy Ceredigion unwaith eto yn mentro i’r ‘bandstand’ i gyflwyno llu o weithgareddau a digwyddiadau i hyrwyddo gwaith yr Archifdy yn ystod Wythnos Archwilio Eich Archif. Ein thema eleni yw ‘Ein Tref’.
Amserlen gweithgareddau Wythnos Archwilio Eich Archif 2023
27ain o Dachwedd – 3ydd o Ragfyr
Byddwn ar agor yn y Bandstand 10.00-17.30 bob dydd, oni nodir fel arall. Bydd digon o bethau i’w gweld a’u profi!
- Y Stryd Fawr Archwilio hanes un o brif strydoedd Aberystwyth
- Collage cymunedol: Creu Stryd Ymunwch yn ein collage cymunedol drwy creu eich ty eich hun ar ein stryd ffuglennol.
- Lliwio mewn Aberystwyth Rhowch gynnig ar liwio mewn cardiau post o olygfeydd Aberystwyth. Yn seiliedig ar gardiau post go iawn o’n casgliadau.
- Prosiect Deiseb Heddwch Merched Cymru Dewch i ymweld â’r stondin i gael gwybodaeth am y prosiect a sut y gallwch chi gymryd rhan.
- Cornel BALH Gwybodaeth a deunyddiau gan Gymdeithas Hanes Lleol Prydain.
Eitemau ar werth, gan gynnwys cardiau Nadolig Archifdy Ceredigion a detholiad o hen arweinlyfrau Aberystwyth.
Rhoddion amrywiol – cardiau post, matiau cwrw, llyfrynnau taith tref hanesyddol Archifdy Ceredigion ar gyfer oedolion a phobl ifanc.
Cyfle i siarad gyda archifwyr go iawn!
Amserlen sgyrsiau a gweithdai.
Dydd Llun 27/11 Agoriad 2pm
15:00 Sesiwn Gofyn yr Archifydd gyda Helen Palmer Archifydd y Sir
Dydd Mawrth 28/11
12:00 Yr Heddlu, Y Wasg a’r Carchar: Troseddau Aberystwyth yn yr Archifdy – sgwrs gan yr hanesydd cyfreithiol Richard Ireland.
14:00 Beth Sy’n Dda am Archifau? Sgwrs gan Bob Bennett, Aelod o Dîm Gwasanaeth Archifau, Gwybodaeth a Rheoli Cofnodion Ceredigion.
15:00 Beth sydd yn y Bocs? Dewch i Archwilio Archifau Ceredigion – sgwrs gan Archifydd y Sir, Helen Palmer.
Dydd Mercher 29/11
11:00 ‘Ydi chi wedi clywed am yr Archifdy?’ sgwrs gan Mair Humphreys, Archifydd a Rheolwr Cofnodion.
12:00 Desg Gymorth Hanes Tai (dwyieithog) gyda Tamzin Craine, Archifydd a Rheolwr Cofnodion.
14:00 Sesiwn Gofyn yr Archifydd (dwyieithog) gyda Mair Humphreys, Archifydd a Rheolwr Cofnodion.
Dydd Iau 30/11
11:00 Prosiect Deiseb Heddwch Merched Cymru – sgwrs gan Sian Howys, Swyddog Allgymorth Gymunedol
14:00 Sesiwn Gofyn yr Archifydd (dwyieithog) gyda Ania Skarżynska, Uwch Archifydd
19:00 ‘Three Legg’d Mare: Noson o gerddoriaeth werin i ddathlu Wythnos Archwiliwch eich Archif. Digwyddiad rhad ac am ddim â thocynnau (tocynnau ar gael trwy Eventbrite, gweler ein tudalen Facebook/Twitter am ragor o fanylion)
Dydd Gwener 01/12
11:00 Mae Gennym Gynllun: Darganfod cynlluniau adeiladau Aberystwyth – sgwrs gan Ania Skarżynska, Uwch Archifydd
14:00 Olrhain Hanes Eich Ty – sgwrs gan Helen Palmer, Archifydd y Sir.
15:00 Gofalu am Eich Dogfennau – sesiwn anffurfiol gyda Helen Palmer, Archifydd y Sir.
Dydd Sadwrn 02/12
12:00 Ydych chi wedi clywed am yr Archifdy? Swrs (yn Gymraeg) gan Mair Humphreys, Archifydd a Rheolwr Cofnodion
14:00 Hen Fapiau yn Archifdy Ceredigion – sgwrs gan Ania Skarżynska, Uwch Archifydd
Dydd Sul 03/12 (cau am 4pm)
11:00 Gweithgaredd Plant – Collage Eich Ty
12:00 Beth sydd yn y Bocs? Dewch i Archwilio Archifau Ceredigion – sgwrs gan Archifydd y Sir, Helen Palmer
14:00 Sesiwn Gofyn yr Archifydd gyda Helen Palmer Archifydd y Sir