Colli Kevin Jenkins (Bones)

Colled fawr i Glwb Pêl-Droed Penrhyn-coch

gan Richard Owen

Y faner ar hanner y polyn ger cae pêl-droed y Penrhyn

Dros y penwythnos daeth y newydd trist am golli Kevin Jenkins, a oedd yn adnabyddus i lawer fel ‘Bones’, yn ddim ond 59 oed, wedi salwch blin. Un o Benparcau oedd o yn wreiddiol, ond ymgartrefodd ef a Debbie, ei wraig, yn Salem, Penrhyn-coch ac yno y magwyd y plant, Leigh ac Amy. Gweithio i’r Comisiwn Coedwigaeth y bu Kevin am y rhan helaethaf o’i yrfa, ond cymerodd ymddeoliad cynnar rai blynyddoedd yn ôl a bu’n gweithio’n rhan amser i gwmni bysus Mid Wales Travel wedi hynny.

Heblaw am ei deulu, pêl-droed oedd dileit Kevin, os yw dileit yn air digon cryf! Roedd o’n ddyn tal, sbel dros chwe troedfedd, ac felly nid yw’n syndod mai gôl-geidwad oedd ei safle. Bu’n chwarae yn y gôl i sawl tîm ond i Benrhyn-coch yn bennaf. Ond nid fel chwaraewr yn unig y gwasanaethodd Kevin glwb y Penrhyn. Bu ei ymroddiad dros flynyddoedd lawer, ar ôl iddo roi’r gorau i chwarae, fel hyfforddwr, swyddog, a phwyllgorddyn yn rhyfeddol, ac roedd yn adnabyddus trwy gylch eang yn y byd pêl-droed, yn enwedig yn y Canolbarth. Bydd y bwlch ar ei ôl yn Nghlwb Pêl-Droed y Penrhyn yn un anodd iawn ei lenwi.

Un o’i gryfderau mawr yn ei waith gyda’r Clwb oedd ei fod yn ddyn pobl, yn wir roedd o’n hynod gymeradwy yn yr ardal yn gyffredinol. Yn ôl un a holais prin y gwnaeth o ffraeo efo neb, ar wahân i ambell reffarî hwyrach! Roedd Kevin hefyd, fel ei dad o’i flaen yn ôl Kevin, yn Gymro gwlatgar iawn. Er gwaetha’i holl brysurdeb pêl droed, fe ffeindiai amser i ddosbarthu taflenni’r Blaid yn ardal Salem.

Mae cydymdeimlad ardal gyfan gyda Debbie, Leigh, Amy a’r teulu i gyd. Coffa da amdano.