Rydym wedi clywed am ymdrech Rhian ac Eirian i godi arian i Apêl Cemo Bronglais drwy gerdded 85 milltir o’r llwybr arfordirol, ond beth am i chi ymuno a’r ymgyrch ar y 25ain o Fehefin am 11 y bore yn dechrau o’r Borth.
Bwriada Rhian Jones ac Eirian Gravell gerdded llwybr yr arfordir rhwng Llwyngwril ac Aberteifi ym mis Mehefin. Dywedodd Eirian sydd yn Nyrs Haematoleg Arbenigol:
Tra bod y ddwy ohonom wrth ein bodd yn cerdded, bydd gan yr 85 milltir o arfordir sawl rhan heriol a byddwn ymhell y tu allan i’n parth cysurus. Ond mae’r ddwy ohonom yn gweithio ar yr uned ddydd cemotherapi ac yn awyddus i wneud rhywbeth i helpu gyda’r Apêl, sy’n anelu at godi’r £500,000 sydd ei angen ar gyfer adeiladu uned bwrpasol newydd, fydd yn darparu amgylchedd gwell i gleifion a staff.
Ychwanegodd Rhian sydd yn Nyrs Glinigol Arbenigol:
Bydd ein taith gerdded arfordirol yn cwmpasu arfordir yr ardal ddaearyddol rydym yn ei gwasanaethu, o’r gogledd i’r de. Rydym yn teimlo ei bod yn fraint cerdded ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.
Sut allwch chi gymryd rhan?
Bydd angen i chi gyfrannu £25 tuag at yr ymgyrch a byddwch yn derbyn potel ddŵr a medal am ddim.
I gofrestru, dilynwch y camau isod:
- Cliciwch yma i roi £25 o gyfraniad cofrestru (agor mewn dolen newydd)
- Unwaith eich bod wedi rhoi eich cyfraniad, cliciwch yma i lenwi’r ffurflen gofrestru (agor mewn dolen newydd)
Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich lle unwaith y byddwch wedi talu eich rhodd cofrestru ac wedi llenwi’r ffurflen gofrestru.
Pwy sydd yn cael cymryd rhan?
Isafswm oedran cyfranogwr yw 14 oed. Rhaid i ymgeiswyr dan 18 oed fod ag oedolyn sy’n cymryd rhan gyda nhw. Rhaid cael un oedolyn sy’n cymryd rhan ar gyfer pob tri phlentyn sy’n cymryd rhan.
Beth yw’r trefniadau?
Mae’r daith bum milltir yn dechrau yn Borth ac yn gorffen wrth y Bandstand ar Bromenâd Aberystwyth. Nid oes terfyn amser ar gyfer y daith gerdded. Mae’r daith gerdded fel arfer yn cymryd rhwng tair a phedair awr i’w chwblhau.
Mae gwasanaeth bws a thrên rheolaidd o Aberystwyth i Borth a fydd yn eich arwain at y dechrau mewn da bryd i gofrestru.
Bydd sesiwn friffio cyn y daith gerdded i sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gwblhau’r daith gerdded yn ddiogel. Bydd gwirfoddolwyr hefyd wrth law ar flaen, canol a chefn y llwybr a bydd cymorth cyntaf sylfaenol yn cael ei ddarparu ar y diwrnod.
Ar y daith, byddwch yn mwynhau golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion i gyfeiriad Sir Benfro i’r de, gydag Eryri a Phenrhyn Llŷn bendigedig y tu ôl i chi i’r gogledd. Cadwch lygad allan am ddolffiniaid! Mae’r llwybr yn hawdd i’w ddilyn, ond mae’n heriol mewn rhannau, gyda dwy ran serth o ddringo a disgyniad.
Mae Elusennau Hywel Dda yn cynghori angen lefel sylfaenol dda o ffitrwydd a’ch bod yn berchen ar esgidiau a dillad addas ar gyfer y daith gerdded os ydych yn bwriadu cofrestru.
Oes angen codi arian mwy o arian ar gyfer yr Apêl?
Mae’r ymgyrch yn croesawu defnyddio’r daith gerdded i godi arian pellach ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.
I godi arian, dilynwch y cyfarwyddiadau uchod yn gyntaf i gymryd rhan yn y digwyddiad. I sefydlu tudalen codi arian bwrpasol, ewch i Dudalen Apêl Cemo Bronglais (agor mewn dolen newydd)