Mae’r Sioe yn ôl a byddwn yn adrodd ar ganlyniadau y Sioe yn fyw trwy’r dydd
Ysgrifennydd y defaid, Michaela, yn falch bod y diwrnod drosodd a diolch i bawb am fynychu
Iola o Ganolfan Reidio Rheidol ar ben ei digon ar ennill yr ail yn yr holl ceffylau yn y Sioe. Supreme Reserve Champion. Dyma hi gyda Mary, Ysgrifennydd yr Adran Ceffylau.
Pedair cwpan i deulu Fronarth, Frongoy, Pennant mewn amrywiol gategoriau.
Mae Gwyn ar ben ei ddigon wedi ennill Cwpan Cefnhendre, cwpan Ffynnonoer, cwpan ifan Phillips a cwpan J D Hughes.
Mwy o ganlyniadau o’r cobiau Cymreig, Adran D:
Ebol blwydd
- Fronarth.
- Paith Stud, Ger y Ffynnon, Goginan
- Coefyrhygun, Trawsfynydd
March 2 i 3 blwydd
- Cwm-meudwy, Llandysul
Ebol 2 i 3 blwydd oed
- Dykes and Nicholson, Cross Inn
- Maescowin, Bancyfelin
- Highlights, Pennarth Drive, Crossgates
Gelding 4 oed neu fwy
- Pencwm, Cwmpengraig, Llandysul
- Mornant, New Hill, Goodwick
- Hafandeg, Bwlchygroes
Ebol ifanc
- Llety’r Bedol, Cwm Rheidol
Stalwyn 4 oed a mwy
- Highlights, Pennarth Drive, Crossgates
- Hafandeg Bwlchygroes
Louise Russell yw enillydd cwpan HF Eacock yng nghategori y palaminos. Dyma’r holl ganlyniadau.
Stalwyn dros 4 oed
- Louise Russell, Ceinewydd
- Amanda Jones, Brynlluest, Cilcennin
Ebol 2 neu 3 blwydd oed
- Maes yr Haf, Bwlchygroes
Ebol blwydd
- Paith Stud, Ger y Ffynnon
Stalwyn Louise oedd yn fuddugol am yr holl gategoriau.
Mwy o luniau y Sioe. Y maer Talat Chaudhri yn mwynhau a Angharad Morris yn casglu ei gwobr Llwynhefin am y gyrrwr gorau.
Merlod Mynydd Cymreig
Colt blwydd
- George Hotel, Penmaenpool
- G V Williams, Brynhenlli, Bodorgan
- C Ingram, Bwlch
Ebol blwydd
- Tonwen Hughes, Dolhelfa Ganol
- Geraint Lewis, Mornant
- Valerie Munn, Blaenpant
Colt 2 i 3 oed
- George Hotel, Penmaenpool
- D R Davies, Gwalia, Llywernog
Ebol 2 i 3 oed
- Pen Parc Cefn Coch, Welsh pool
- Sheil, Builth Wells
- S Foley & A Hayward Bwlchygroes
Miloedd o bobl yma. Dal i feirniadu y gwartheg
A tractors a ceir clasuron
Radio Aber yn fyw o Sioe Aber
Sioe cŵn wedi dechrau am 11