gan
Steffan Bryn Shepherd
Cafodd CA2 y cyfle i gael gweithdy a chydweithio gyda Beth o gwmni CISP Multimedia er mwyn creu ein tudalen arbennig am hanes Trên Bach y Rheidol. Braf oedd cael dysgu am rywbeth ar stepen ein drws.
Diolch i swyddogion Siarter Iaith Ceredigion, cafodd pob ysgol yng Ngheredigion cyfle i greu tudalen comig am rywbeth yn lleol iddyn nhw.
Edrychwn ymlaen at weld paneli pawb ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.