Penwythnos Prysur Llanddeiniol

Hwyl yr Ŵyl yn y pentref

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Cyrhaeddodd hwyl yr ŵyl Llanddeiniol dros y penwythnos gyda lot o fwrlwm yn y pentref.

Yn gyntaf daeth Santa ar ymweliad nos Sadwrn. Llond lle o siocled poeth, gwin cynnes a danteithion melys yn rhoi cyfle i bawb yn y pentref gymdeithasu. Diolch yn fawr i Nia Harries am ganu dwy gan hyfryd i’n diddanu ac wrth gwrs diolch i’r dyn ei hun am alw draw!

Nos Sul tro plant yr Ysgol Sul oedd hi i ddiddanu’r gynulleidfa yn Naws y Nadolig Capel Elim. Mr Gwyn Wigley wnaeth adrodd stori’r geni gyda chymorth parod y plant. Cyfle i bawb gyd-ganu rhai o’n hoff garolau hefyd yn ystod y gwasanaeth. Gwnaed casgliad o £137 i HAHAV.

Yna, nos Lun criw’r CFfI fu o gwmpas y pentref yn canu carolau i godi arian i apêl cemotherapi, Ysbyty Bronglais. Roedd yna ganu swynol!! Diolch i’r holl drigolion am y croeso cynnes. Noson lwyddiannus gyda’r criw yn casglu £650 i’r elusen.

Mae Llanddeiniol yn bendant yn hwyl yr ŵyl. Nesaf bydd gwasanaeth noswyl Nadolig yr Eglwys yn cael ei chynnal am 9.30pm nos Sadwrn.