Parkrun Aberystwyth yn dathlu’r deg

Ar 1af o Fedi 2012 daeth grŵp o wirfoddolwyr brwd o Glwb Athletau Aberystwyth ynghyd er mwyn trefnu parkrun cyntaf Aberystwyth. Y nod oedd bod yn rhan o ddigwyddiad cymunedol wythnosol byd-eang sy’n dod â phobl ynghyd i redeg, cerdded neu loncian 5 cilomedr.

gan Deian Creunant
Y 'pacers' amrywiol a'u hamserau

Y ‘pacers’ amrywiol a’u hamserau

Owain Schiavone a'i feibion Llew, Moi a Now ar ddiwedd y ras

Owain Schiavone a’i feibion Llew, Moi a Now ar ddiwedd y ras

Mae cŵn wrth eu bodd yn parkrun

Mae cŵn wrth eu bodd yn parkrun

Ddeng mlynedd a dros 450 o ddigwyddiadau yn ddiweddarach, gyda’n agos at 5,500 o wahanol bobl wedi cymryd rhan, mae parkrun Aberystwyth yn gryfach nag erioed a bob bore Sadwrn gallwch weld dros 100 o gyfranogwyr eiddgar yn ymuno ar Goedlan Plascrug, pob un â nod gwahanol, rhai’n ymgeisio am amser gwell, eraill yn cwrdd â ffrindiau am dro a sgwrs a nifer yn ei wneud fel rhan o’u hadferiad meddygol.

A dyma sy’n odidog am parkrun – mae rhywbeth i bawb fel yr eglura’r Cyd-gyfarwyddwr Nick Thompson,

“Cafodd parkrun ei sefydlu fel profiad cadarnhaol, croesawgar a chynhwysol lle nad oes terfyn amser a does neb yn gorffen yn olaf. Rydym wedi gweld ei boblogrwydd yn cynyddu dros y blynyddoedd, gyda thua deg ar hugain yn dod at ei gilydd yn wreiddiol a bellach mae dros 100 yn croesi’r llinell derfyn bob Sadwrn gyda chymorth 17 o wirfoddolwyr.”

Dros y penwythnos dathlwyd y deg yn Aberystwyth drwy gynnig ‘pacers’ oedd yn rhedeg ar amryw gyflymder er mwyn helpu eraill i wella eu hamser.

Wyneb ac enw cyfarwydd yn Aberystwyth a thu hwnt oedd enillydd y ras arbennig hon sef Owain Schiavone ac fe gafodd gwmni gweddill y teulu yn rhedeg hefyd gan brofi pa mor holl gynhwysol yw parkrun – mae croeso cynnes i bawb.

O fod ynghlwm â parkrun Aberystwyth, daeth Jane Thorogood, rhedwr a gwirfoddolwr lleol, yn llysgennad digwyddiadau ar gyfer parkrun yng Nghymru ym mis Hydref 2015, ac ers hynny mae wedi helpu i gychwyn parkrun ieuenctid Aberystwyth yn ogystal â parkruns eraill yn Nolgellau, Llanerchaeron, y Drenewydd a Groe (Llanfair-ym-Muallt).

Meddai Jane,

“Mae wedi bod yn gymaint o wefr gweld y parkruns hyn yn cychwyn ym mhobman ac maen nhw i gyd yn cael eu rhedeg mor broffesiynol gan grwpiau ymroddedig o wirfoddolwyr. Yn Aber mae wedi bod yn wych gweld y parkrun iau yn dechrau ac yn tyfu bob dydd Sul gan sicrhau bod parkrun yn wirioneddol yn ddigwyddiad i bawb.”

Beth am roi tro arni felly – i gael rhagor o wybodaeth a chofrestru am ddim, ewch i https://www.parkrun.org.uk/aberystwyth/