Padarn Sant a Chynefin y Cardi

Ysgol Padarn Sant

gan Cordelia Kenyon-Jones

dav

Fel rhan o brosiect ‘Cynefin y Cardi’ ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni, bu disgyblion Blwyddyn 5 a 6 Ysgol Padarn Sant yn creu comic i gyflwyno rhywfaint o’u hanes lleol.

Penderfynwyd ar y Brifysgol yma yn Aberystwyth sydd dafliad carreg o’r ysgol. Bu disgyblion yn ymchwilio mewn i hanes y Brifysgol a darganfuwyd ffeithiau cŵl ar y ffordd!

Mwynheuodd y disgyblion gydweithio â chwmni CISP Multimedia. Roedd yn ddiddorol bod yn rhan o’r gweithdy ac yn dysgu ymchwilio, cynllunio a dylunio i greu’r panel. Mae pawb yn edrych ymlaen at weld tudalennu ysgolion yr holl Sir ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.