Maer a dirprwy faer Aberystwyth wedi eu dewis – Talat a Kerry

Cyngor Tref Aberystwyth wedi cynnal eu Cyfarfod Blynyddol i ddewis y maer a’r dirprwy faer

Yng nghyfarfod cyntaf o Gyngor Tref Aberystwyth, dewiswyd Talat Chaudhri fel Maer Aberystwyth am y flwyddyn Mai 2022 i Ebrill 2023.

Talat oedd y dirprwy faer llynedd, tra roedd Alun Williams yn llywio’r awenau fel y maer.

Dewiswyd Kerry Ferguson fel dirprwy faer, a’r arferiad felly yw bod y dirprwy yn cael eu dewis yn faer yn y flwyddyn ganlynol.

Pwy yw Talat?

Talat oedd y Maer o Fai 2018 i Ebrill 2019. Mae’n gynghorydd ers 2015, ac fe gafodd ei ail-ethol dechrau Mai i gynrychioli ward Bronglais. Yn ogystal â bod yn weithgar gyda Yes Cymru, mae Talat yn Gadeirydd Melin Drafod – corff sydd yn trafod polisiau sydd ei angen ar gyfer Cymru Annibynnol.

Mae Talat wedi gweithio mewn ystod helaeth o feysydd ieithyddol, academaidd a thechnolegol, yn bennaf yn y sector addysg uwchradd ond hefyd mewn amrywiol waith proffesiynol a thechnolegol arall. Mae ef wedi cynghori ar bolisi gwybodaeth ymchwil ar lefel strategol wladol. Mae’n gweithio fel ymgynghorydd annibynnol.

Mae ei ddoethuriaeth o Brifysgol Aberystwyth. Astudiodd cyn hynny yng ngholeg Lady Margaret HallPrifysgol Rhydychen.

Bu’n Arolygydd Arholiadau Cynorthwyol ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 2016-2021.

Mae ei waith academaidd a’i ddysgu yn yr Astudiaethau Celtaidd. Maes pennaf ei ymchwil yw gwreiddiau a datblygiad cynnar yr ieithoedd Brythonaidd o fewn ieitheg Indo-Ewropeaidd ehangach; mae’n yn cadw diddordeb mewn hanes, y cyfnod ôl-Rufeinaidd yn enwedig.

Mae ef wedi dysgu a darlithio mewn Gloywi Iaith (Cymraeg ysgrifenedig a phroffesiynol), Llydaweg Cyfoes, ieitheg hanesyddol a Hen Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ef hefyd wedi dysgu Cymraeg Cyfoes a Llydaweg Cyfoes i oedolion. Mae ganddo brofiad helaeth mewn caffaeliad iaith ac addysg, ieithoedd lleiafrifol, cyfieithu, a gwaith golygyddol.

Mae wedi arwain a chyfrannu at geisiadau am arian llwyddiannus ar gyfer prosiectau gyda sefydliadau addysg uwchradd ryngwladol a rhandalwyr masnachol mawr. Gweithiai yn UKOLN ym Mhrifysgol Caerfaddon ac yn y Gwasanaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’n ddatblygwr gwe a rhaglennwr cyfrifiadurol a chanddo rychwant eang o arbenigedd technegol.

Pwy yw Kerry?

O un datblygwr gwe i’r llall! Ers 2013, mae Kerry a’i phartner Emlyn (sydd hefyd yn gynghorydd tref) yn rhedeg Gwe Cambrian Web. Mae hefyd yn weithgar iawn yn y gymuned yn Llywydd Ardal Aberystwyth Rotari, aelod o Fwrdd Menter Aberystwyth, llywodraethwr Ysgol Plascrug, ac yn wirfoddolwr gyda Radio Aber.

Mae Kerry yn ysgrifennydd cyson i wefan Bro Aber360 – ac wrth gwrs, yn gynghorydd Tref Aberystwyth dros ward Rheidol.

Pob hwyl i’r ddau ohonynt a diolch i Alun Williams am ei waith fel y maer dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.