Lluniau cyntaf telesgop James Webb ar Faes yr Eisteddfod

Dr Rhys Morris o Brifysgol Bryste yn cyflwyno lluniau telesgop James Webb yn y Sfferen

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse
DSC00626

Elin Rhys yn cyflwyno Dr Rhys Morris yn Sfferen y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dr Rhys Morris, Prifysgol Bryste, yn cyflwyno’r lluniau cyntaf yn Sfferen y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg – sy’n cael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth – ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Ffeithiau diddorol:

  • Roedd James Webb yn brif weinyddwr NASA o 1961 i 1968 – cyfnod prosiectau Apollo, Mariner a Pioneer.
  • Dechreuwyd cynllunio’r telesgop yn 1990
  • Cost: $10-11 biliwn
  • Maint: 1 cwrt tennis
  • Lansiwyd: 25 Rhagfyr 2021
  • Pellter o’r ddaear: 1.5 miliwn km