Lloergan yn disgleirio

Noson agoriadol wefreiddiol ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse
DSC00478

Sam Ebenezer | Lynwen Haf Roberts | Gruffydd Rhys Davies | Miri Llwyd | Côr yr Eisteddfod

LLOERGAN

Un Lleuad. Dau Fyd

gan Fflur Dafydd.

Caneuon gan Griff Lynch (Yr Ods) a Lewys Wyn (Yr Eira)

gyda Sam Ebenezer | Lynwen Haf Roberts | Gruffydd Rhys Davies | Miri Llwyd | Côr yr Eisteddfod

Cyfarwyddwr: Angharad Lee

Cydlynydd y Côr: Rhiannon Lewis

Cyfarwyddwr Cerdd: Rhys Taylor

Mae’n 2050, a’r ofodwraig Lleuwen Jones wedi gwireddu breuddwyd oes o gael bod y ferch gyntaf ar y lleuad.

Mae hi bellach yn eicon ym myd seryddiaeth, ac yn gweithio i fyny yn y gofod, tra bod ei gŵr, Gwyn yn magu eu plant, Seren a Rhys, ar y ddaear, yn ardal Ystrad Fflur, lle cafodd ef ei eni a’i fagu.

Pan mae Lleuwen yn dychwelyd i Gymru, mae hi’n awchu i dreulio amser gyda’i theulu, ond mae hi’n eiddo i bawb, a phawb eisiau darn ohoni. Sut gall Lleuwen barhau i fod yn driw iddi hi ei hun, a’i theulu, heb bechu’r rheiny sy’n ysu iddi rannu ei phrofiadau â nhw?

A yw hi’n bosib i greu cartref newydd mewn lle estron? Ac i fod yn rhan o’ch milltir sgwâr o bellter? Sut mae’r plant yn ymdopi gyda chael mam sydd â’i thraed prin yn cyffwrdd â’r ddaear, a thad sydd eisiau iddynt wreiddio eu hunain yn ddwfn y pridd?

Fe aiff Lleuwen ar y daith bwysicaf oll i ddarganfod sut i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng y naill fywyd a’r llall, gan frwydro i ddarganfod y man canol rhwng cariad ac ymrwymiad, dyletswydd ac uchelgais, y genedl a’r gofod.

Mae’r gerddoriaeth yn cyfuno melodïau melys bachog, gyda synau electroneg amrywiol. Gan fod y ddau yn dod o gefndir creu caneuon gyda band, mae’r strwythur yn naturiol yn debycach i ganeuon pop, na chaneuon traddodiadol sioe gerdd. Mae synau synth, ac offerynnau taro yn arwain y caneuon yn aml i fod yn rhai i ddawnsio iddyn nhw, gyda phytiau eraill yn fwy epic, wedi eu paratoi ar gyfer wal o sŵn gan y côr.