Hir yw pob aros ac, ar ôl bwlch o dair blynedd oherwydd y pandemig, bydd Côr ABC o Aberystwyth yn dychwelyd i Eglwys Padarn Sant, Llanbadarn Fawr, nos Sul, 11 Rhagfyr am 7.30pm, i gynnal cyngerdd carolau yn seiliedig ar draddodiad yr Ŵyl Naw Llith a Charolau.
Mae’r côr yn estyn gwahoddiad i drigolion Aberystwyth a’r cylch ymuno ag ef i ddathlu’r Nadolig, drwy fwynhau rhaglen o garolau traddodiadol a cherddoriaeth hen a newydd yr Adfent dan arweiniad Gwennan Williams ac i gyfeiliant Louise Amery (piano) ac Andrew Cusworth (organ), ynghyd â darlleniadau gan rai o aelodau a chyfeillion y côr. Bydd cyfle hefyd i’r gynulleidfa ymuno â’r côr i ganu carol neu ddwy ac i fwynhau pwnsh poeth a mins peis ar ôl y cyngerdd.
“Mae’r noson Naw Llith a Charolau wedi datblygu i fod yn un o hoff ddigwyddiadau a thraddodiadau’r côr,” meddai arweinydd y côr, Gwennan Williams. “Eleni, mae’r côr yn edrych ymlaen yn fwy nag erioed at ddod ynghyd am y tro cyntaf ers 2019 i ganu carolau a cherddoriaeth hyfryd yr Adfent yn awyrgylch unigryw Eglwys Padarn Sant, a hynny ar noson sy’n nodi dechrau cyfnod y Nadolig i lawer ohonon ni.”
Bydd mynediad am ddim, gyda chasgliad er budd Home-Start Ceredigion, elusen leol sy’n helpu teuluoedd â phlant ifanc i ymdopi â bywyd, beth bynnag a ddaw, drwy gynorthwyo rhieni wrth iddyn nhw fagu hyder a dysgu sut i greu bywydau gwell i’w plant.