Lansio sianel podlediad Clonc Cynefin

Podlediadau newydd gan Ysgolion Ceredigion

Anwen Eleri Bowen
gan Anwen Eleri Bowen

Prosiect diweddaraf Siarter Iaith Ceredigion oedd darparu gweithdy ar sut i greu podlediad i ysgolion Ceredigion a hynny dan ofal Marc Griffiths o Stiwdiobox.

Cymerodd 27 o ysgolion ran a chrëwyd podlediadau ar y thema ‘Ein Milltir Sgwâr’.

Gallwch ddod o hyd i’r holl bodlediadau wrth chwilio am ‘Clonc Cynefin’ ar blatfform Y pod ac Apple podcast.

Mae pob podlediad yn cyflwyno gwybodaeth am ardaloedd amrywiol Ceredigion. Gellir clywed hanes Argae Nant-y-moch gan Ysgol Syr John Rhys, hanes gêm Y Cnapan a defaid Llanwenog gydag Ysgol Dyffryn Cledlyn. Mae digon o hanes ac antur yn eich aros wrth wrando ar y podlediadau.

Rhoddodd y prosiect gyfle i ddisgyblion ddatblygu sgiliau llafar Cymraeg a chynyddu a gwella medrau Technoleg Gwybodaeth a chelfyddydol.

Dywedodd Lily Macy a Malen Davies o Ysgol y Mynach:

“Ni di mwyhau mas draw yn creu y podlediad, cawsom y cyfle i wneud pob darn o’r podlediad, yr ymchwilo, sgriptio, recordio a hyd yn oed golygu’r holl bodlediad gyda Marci G – roedd e’n brofiad gwych!”

Dywedodd Rhiannon Carruthers, Athrawes Ysgol y Mynach:

“Mae’r holl brofiad wedi bod yn wych i bawb, ni wedi dysgu cymaint am yr ardal a nawr mae cyfle i ni addysgu chi hefyd am ardal a hanes Pontarfynach. Diolch enfawr am y cyfle.”

Lansiwyd y sianel podlediad yn ystod cyfarfod Rhwydwaith Cydlynwyr Iaith Ceredigion ar 1 Chwefror 2022 gyda’r Cynghorydd Catrin Miles, Marc Griffiths o Stiwdiobox ac Hanna Hopwood o BBC Radio Cymru yn bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes & Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth:

“Am brosiect gwych i ddisgyblion Ceredigion. Rwy’n siŵr bod y prosiect wedi rhoi cyfle i’r disgyblion i ymchwilio ac i ddod i adnabod eu cynefin yn ogystal â rhoi’r cyfle arbennig i ddysgu am hanes a chwedlau lleol. Edrychaf ymlaen at glywed y podlediadau.”

Gellir dod o hyd i’r sianel ar apple podcast, spotify, Y pod ymysg platfformau digidol eraill. Ewch ati i wrando ac i danysgrifio i’r sianel, mi fyddwch yn siŵr i ddysgu ambell ffaith newydd neu i glywed stori ddifyr am y Sir.

Diolch i’r holl ysgolion bu yn rhan o’r cynllun, mae pawb wedi gwneud podlediad gwerth chweil. Bydd mwy o bodlediadiau yn cael eu hychwanegu yn y dyddiau, wythnosau nesaf.