Yr awdur Sharon Marie Jones oedd yn cynnal sesiwn Hwyl yr Haf yn Llyfrgell y Dref ar y 16eg o Awst 2022.
Mae Sharon, sydd yn byw yng Nghapel Bangor, wedi ysgrifennu trioleg o lyfrau plant Grace-Ella, gyda gwasg Firefly Press. Drwy help Mr Whiskins (sy’n wrach), caiff Grace-Ella ddysgu am hud a lledrith gyda Chyngor y Gwrachod.
Yn y digwyddiad, roedd Sharon yn darllen rhannu o’r llyfr a chafwyd gweithdy creu ffon hud o natur, fel y gwelir isod.
Fel rhan o raglen Reading Agency, a gyllidwyd gan £7m o law Lywodraeth Cymru – mae digwyddiadau wedi eu trefnu ar draws Ceredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid:
“Mae cyllid Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i blant a phobl ifanc Ceredigion, gan ein galluogi i ddarparu cyfleoedd yn rhad ac am ddim drwy gydol gwyliau’r haf ac felly, rydym yn cael gwared â rhwystrau ffioedd mynychu, yn enwedig wrth i gostau byw gynyddu’n ddyddiol. Mae’n hyfryd gweld gweithgareddau mor amrywiol yn cael eu cynnig gan wahanol sefydliadau ledled Ceredigion – o feysydd diwylliannol a chelf a chrefft i gemau, chwaraeon a chwarae. Mae’n wych gweld amgylchedd naturiol ein sir yn cael ei ddefnyddio i ddarparu’r gweithgareddau, gan ein bod yn byw mewn lle mor hardd. Rydym yn gwybod i weithgareddau Gaeaf Llawn Lles fod yn llwyddiant ysgubol ac edrychwn ymlaen at weld Haf o Hwyl yn llwyddo i’r un graddau os nad gwell!”
Yn wreiddiol o Ddolgellau, daeth Sharon i’r Brifysgol yn Aberystwyth, ac wedi 12 mlynedd o ddysgu fel athrawes gynradd, trodd ei llaw at ysgrifennu. Mae hefyd yn berchennog busnes crefft Swyn y Môr.
Diolch i Sharon am y lluniau a diolch i Lyfrgell Aberystwyth ac i bawb am gymryd rhan.