Gŵyl Seiclo Aberystwyth 2022

Mae’r Ŵyl Seiclo yn ôl ac mae yna rywbeth at ddant pawb.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Gŵyl Seiclo Aberystwyth 2022

Heddiw mae’r Prom yn fwrlwm o weithgaredd gyda phobl o bob oed yn cymryd rhan yn y rasys beics o gwmpas y dref. Bore yma roedd yna gyfle i blant ac ieuenctid yr ardal ddangos eu doniau ac roedd yn braf gweld cynifer yn cymryd rhan.

Ond mae’r gweithgaredd yn para trwy’r dydd, felly dewch draw i gefnogi’r seiclwyr a mwynhau’r rasio. Prynhawn yma a heno mae Rasys Criterium Cymru gyda’r seiclwyr lleol yn cystadlu yn erbyn rhai o oreuon Cymru a thu hwnt.

Yfory (5/6/22) mae’n ddiwrnod y Sportif  gyda chyfle i seiclwyr ddewis o dri chwrs sy’n amrywio o 44.5 milltir i 105.8 milltir.  Cyfle i fwynhau golygfeydd godidog canolbarth Cymru!

Am fwy o fanylion gweler: https://www.abercyclefest.co.uk/cy/. Diolch i’r trefnwyr a’r noddwyr am yr holl waith yn sicrhau parhad yr Ŵyl.