Gwerthfawrogi gwaith Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau

Cyfeillion y Cyngor Llyfrau’n diolch am gyfraniad Helen Jones

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Nos Fercher, 3 Awst, mewn derbyniad gan Gyfeillion y Cyngor Llyfrau, cafwyd cyfle i werthfawrogi gwaith Helen Jones, Pennaeth yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, dros y chwe blynedd diwethaf. Diolchodd Ion Thomas, Cadeirydd y Cyfeillion, yn gynnes iawn iddi am ei chyfraniad a dymuno’n dda iddi ar ei hymddeoliad. Cyn ymuno â’r Cyngor Llyfrau, bu Helen, sy’n byw yn Nhal-y-bont, yn athrawes yn Ysgol Rhydypennau.

Wrth ymateb, cyfeiriodd Helen at nifer o brosiectau arloesol a roddodd bleser arbennig iddi – cynllun hwyliog Chwedlau ar y Cledrau, lle roedd nifer o ddisgyblion a’u hathrawon yn teithio ar y trên i gael gweithdy gydag awdur, y cwisiau llyfrau blynyddol i ysgolion – Darllen dros Gymru, a’r cynllun i roi llyfr yn rhodd i bob disgybl 3–16 oed yn rhan o’r cynllun Caru Darllen Ysgolion.

Diolch yn fawr, Helen, ac ymddeoliad hir a hapus!