Bydd yna ddwy orsedd yn yr Eisteddfod eleni – yr orsedd draddodiadol – a gorsedd unigryw y Fari Lwyd.
Yr artist Gwladys Evans o Fontgoch, sy’n rhedeg ei chwmni Serennu, sydd wedi creu’r criw trawiadol sy’n cynnwys yr Archdderwydd, Ceidwad y Cledd a chasgliad o aelodau’r wisg wen, y wisg las a’r wisg werdd.
Maen nhw’n werth eu gweld. Cofiwch alw heibio i’w hedmygu ym mhabell Artisan ar y Maes. Dyma ychydig o’u hanes gan Gwladys Evans …
O ble gawsoch chi’r syniad i greu Gorsedd Fach y Fari Lwyd?
“Roeddwn wedi bod yn meddwl am wneud rhywbeth yn arbennig i Eisteddfod Tregaron, rhywbeth unigryw a bach yn gomig. Ces i’r syniad am greu Gorsedd Fach Y Fari. Esblygodd pob un cymeriad ac roedd yn hwyl gwneud rhywbeth gwahanol.”
Sut oeddech chi’n mynd ati i’w creu?
“Mae’r Orsedd Fach wedi eu gwneud o borslen. Yn gyntaf, rwy’n mowldio’r benglog ac yna’n mynd ati i rowlio darn o borslen meddal i wneud y corff. Yna, bydd rhaid aros iddynt galedi ychydig cyn eu rhoi at ei gilydd. Mi fydd rhaid tanio ambell ddarn tair gwaith. Byddan nhw’n mynd i’r odyn ar dymheredd hyd at 1,000°C, yna ar ôl eu haddurno a rhoi glaze arnynt byddaf yn eu haildanio i 1,240°C, yna byddaf yn rhoi trydydd taniad i’r aur lle mae’r gwres yn cyrraedd 800°C.”
Beth arall mae Serennu yn ei wneud?
“Yn bennaf rwyf yn creu cerfluniau anifeiliaid unigryw a photiau addurniadol, mae pob un darn o waith wedi’i wneud â llaw mewn clai caled neu glai porslen. Y cam nesaf fydd symud ymlaen i ddefnyddio olwyn crochenwaith a thaflu eitemau i’w haddurno. Rwyf newydd gael olwyn felly dyna’r her nesaf.
Mae gen i amrywiaeth o bethau ar gyfer yr Eisteddfod yn cynnwys ambell i beth sydd wedi’u hysbrydoli gan Abaty Ystrad Fflur, Gorsedd Fach y Fari Lwyd, a hefyd pair sydd wedi ei ysbrydoli gan gerdd Dafydd ap Gwilym.”
Beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf ato yn yr Eisteddfod?
“Edrychaf ymlaen yn bennaf i gymdeithasu unwaith eto a gobeithio cael ychydig o hwyl ar y stondin wrth siarad â hwn a’r llall. Dyma’r tro cyntaf i mi gael stondin ar faes yr Eisteddfod ac rwy’n gyffrous i fod yn adeilad yr Artisan wrth ymyl y Lle Celf. Dewch i ddweud Helo!”