Glanhau’r Dref!

Digwyddiad cyntaf Clwb Rotary Ardal Aberystwyth

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson

Fe wnaeth aelodau clwb Ardal Aberystwyth godi eu llewys a threulio prynhawn yn Aberystwyth yn glanhau’r dref ddiwedd mis Ionawr. Dyma’n gweithgaredd cyntaf ers i’r Clwb dderbyn ei Siarter gan Rotary International, gan dderbyn Ardal Aberystwyth yn ffurfiol i’r sefydliad byd-eang.

Mae Ardal Aberystwyth yn Glwb Rotary ar ddull newydd, sydd yn ymwneud â chymrodoriaeth a gwneud gwahaniaeth drwy gefnogi cymunedau ac elusennau lleol a chenedlaethol. Hefo hyn mewn golwg, roedd cadw’r strydoedd a’r traethau’n lân i bawb eu mwynhau yn lle da i ddechrau.

Gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn effeithlon ac yn ddiogel, darparwyd yr holl offer ar gyfer y gwaith glanhau yn garedig gan Garu Aber.

Dywedodd y Llywydd, Kerry Ferguson: “Roedd yn wych cael y cyfle i gyfarfod fel Clwb am y tro cyntaf ers i’n Siarter swyddogol gyrraedd, a pha ffordd well na thrwy wneud gwaith cymunedol rhagorol! Fel Clwb Rotary newydd, rydym yn awyddus iawn i weithio’n agos gyda’r gymuned a chynnal ein digwyddiadau ein hunain ar draws Aberystwyth.”

I gael gwybod mwy am ymuno ag Ardal Aberystwyth neu os oes gennych ddigwyddiad cymunedol sydd angen eu help, cysylltwch â Kerry yn kerry@cambrianweb.com.