Ar Gered: Bwlch Nant yr Arian

Cyfres o deithiau cerdded Cymraeg eu hiaith

Cered Menter Iaith Ceredigion

Daeth 18 o gerddwyr brwd ynghyd ddydd Sadwrn Mawrth 18fed i fynd ar daith gerdded ddiweddaraf ‘Ar Gered’, a ddechreuodd ym Mwlch Nant yr Arian cyn dilyn llwybrau graeanog i weld prydferthwch Llyn Blaenmelindwr.

Cyfres o deithiau cerdded Cymraeg eu hiaith yn ardal Y Topie yw ‘Ar Gered’,  a drefnir gan Cered: Menter Iaith Ceredigion er mwyn rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg hyderus a siaradwyr Cymraeg fwy newydd i gymdeithasu.

Gweler uchod gasgliad o luniau o’r daith.

Y daith nesaf

Fe fydd taith gerdded nesaf ‘Ar Gered’ yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn Ebrill 23ain ac yn cychwyn am 10.30 y.b. ym maes parcio Llyn Pendam. Bydd y daith gylchol hon tua 7.5 cilomedr o ran hyd ac yn dilyn llwybrau llawn golygfeydd rhyfeddol i gyfeiriad Llyn Craigypistyll a Llyn Syfydrin. Os ydych yn mwynhau gwisgo’ch bŵts cerdded a darganfod llefydd newydd yna bydd rhaid i chi ddod ar y daith hon.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am y daith, ac i gofrestru, anfonwch ebost at Steffan Rees, Arweinydd Tîm Cered ac arweinydd y daith:  steffan.rees@ceredigion.gov.uk.