Nos Wener, 10fed o Fehefin 2022, roedd lansiad casgliad arbennig o arlunwaith a chyfrol i gyd-fynd a’r arddangosfa yn Arad Goch ar Stryd Y Baddon yn Aberystwyth.
Mae Gareth Owen yn byw yn Aberystwyth ers blynyddoedd, ond yn wreiddiol o Lanuwchllyn ger Y Bala.
Ddiwedd Chwefror 2020, cyn cyfnod COVID, lansiodd Gareth gasgliad o Aberystwyth “drwy lygaid eraill”
Arddangosfa artist o Aberystwyth “drwy lygaid eraill”
Y tro yma, Canolfan Treftadaeth y Bala sydd wedi gwahodd Gareth i ymateb yn greadigol i’r gerdd ‘Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu’ gan J. Kitchener Davies.
Yn bresennol yn y noson (ac yn y llun uchod), roedd Manon Rhys, un o ferched Kitchener Davies, a T. James Jones, a dau o or-wyrion Kitchener Davies, Hopcyn a Martha, gyda Gareth Owen yr arlunydd.
Elwyn Jones, cyn-Brif Weithredwr y Cyngor Llyfrau a agorodd yr arddangosfa sydd hefyd yn y llun.
Gwasg Carreg Gwalch sydd yn cyhoeddi’r gyfrol “Sŵn y Gwynt Sy’n Chwythu” sydd wedi ei chynllunio i gyd-fynd ag arddangosfa ac mae’r gyfrol ar gael yn eich siop lyfrau leol neu ar Gwales am fargen o £5 am 74 tudalen.
Llongyfarchiadau mawr i Gareth ac ewch draw i Arad Goch i weld y gwaith.