Cyfraniad arbennig i gymuned arbennig. Dyna oedd neges gwobrwyo Dylan a Rhian Jones am eu cyfraniad i Fforwm Cymuned Penparcau.
Mae Rhian wedi bod yn arwain Caffi Gwenallt, gan sicrhau ansawdd a pharch i’r gwirfoddolwyr.
Mae Dylan wedi bod yn Gadeirydd y Fforwm ers y dechrau, ac wedi cyflawni nifer o dasgau gwirfoddol yn ei gyfnod yn yr “Hwb”. Fel cyn-blismon, roedd Dylan yn gwybod sut i roi trefn ar bethau.
Hanes Fforwm Cymuned Penparcau
Mae’r bwysig cofio mai yn 2012 y penderfynodd Llywodraeth Cymru ddiddymu statws Cymunedau’n Gyntaf i ardaloedd Penparcau a Thregaron.
Roedd cymuned Penparcau yn awyddus i gadw’r gweithgaredd a fu’n rhan o’r statws yma, ac fe gynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym Mhlas Antaron, gan ddewis Dylan i lywio’r corff newydd.
Cyngor Tref Aberystwyth oedd yn ariannu’r swyddfa ger siop y cigydd, gyda’r Gymdeithas Gofal yn ariannu swydd Bryn Jones y cydlynydd.
Cafodd Bryn, gyda chefnogaeth Dylan a gweddill y pwyllgor lwyddiant sylweddol, ac mewn rhai blynyddoedd, symudwyd i’r hen Glwb Bocsio gan ffurfio “yr Hwb”.
Caffi Gwenallt
Fel rhan o gyllid People’s Health Trust, adeiladwyd estyniad i’r Clwb Bocsio, a rhan bwysig o hwn oedd caffi cymunedol. Enwyd y caffi ar ôl y bardd lleol, Gwenallt. Rhian oedd yn bennaf gyfrifol am sicrhau marc ansawdd 5, a’i fod yn le croesawus i’r cwsmeriaid a’r gwirfoddolwyr.
Mae’n leoliad gyda chymaint o weithgareddau – bydd colled fawr heb Rhian a Dylan i roi cyfeiriad, ond rwy’n siŵr byddant yn parhau yn gefnogol iawn.
Prysurdeb Fforwm Penparcau
Pwy yw’r Cadeirydd nesaf?
Fe fydd darllenwyr yr Angor yn ymwybodol fod Kelvin Jones wedi cymryd yr awenau. Dywedodd fel rhan o erthygl yr Angor: –
Yn bersonol, rwy’n gweld yr Hwb fel ased a man cyfarfod mawr ei angen ar gyfer trigolion Penparcau a hoffwn feddwl amdano fel “siop un siop” cymaint. Os na allwn ni eich helpu, fe allwn eich pwyntio i gyfeiriad y rhieni a all. Gyda thîm cryf bellach ar waith, ynghyd â grŵp o wirfoddolwyr gwych, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair.
Am fwy o fanylion – ewch i https://penparcau.cymru/ neu dudalen Facebook https://www.facebook.com/PenparcauCommunityForum/