Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion

Cynhelir Eisteddfod ar y 5ed o Fawrth 2022 am 7 yr hwyr yng Nghaffi Emlyn

Beth am ddefnyddio’r misoedd oer i gynhyrchu campwaith eisteddfodol?

Beirniad yr Eisteddfod yw’r Prifardd Aneirin Karadog.

Mae’r holl gystadlaethau yn agored i’r cyhoedd.

TESTUNAU

Cadair Goffa Pat Neill: Awdl mewn cynghanedd gyflawn – Tyfu (heb fod dros 40 o linellau)

  1. Englyn: Cymydog
  2. Englyn Ysgafn: Dirwy
  3. Telyneg: Trwy Gil y Drws
  4. Cywydd am le sy’n arbennig i chi (hyd at 18 o linellau)
  5. Cân Ysgafn: Pwyllgora (hyd at 20 o linellau)
  6. Parodi: Fflat Huw Puw
  7. Trydargerdd: (cerdd gaeth neu rydd fel neges Twitter hyd at 280 o nodau) yn cynnig polisi newydd i unrhyw blaid
  8. Dyddiadur sy’n ymestyn dros gyfnod o flwyddyn i gynnwys llinyn storîol cryf (hyd at 1,500 o eiriau)
  9. Ysgrif neu Stori Fer agored ond ag elfen o ddirgelwch ynddi (hyd at 1,500 o eiriau)
  10. Erthygl ar gyfer Papur Bro: Datguddio hanesyn lleol sy’n haeddu mwy o sylw (hyd at 1,000 o eiriau)
  11. Cyfansoddi Cân Werin neu Faled (seiliedig ar ryw ddigwyddiad neu gyfyngedig i ryw gyfnod /flwyddyn: Y Flwyddyn a Fu
  12. Cystadleuaeth i siaradwyr newydd: Cerdd neu ryddiaith ar y testun ‘Gwreiddiau’

Gwobrau

Cystadleuaeth Pat Neill: Cadair Fechan a £50

Yr Englyn Ysgafn: £50 er cof am Dai Rees Davies; noddwr: Alun O. Davies MBE

Gwobrau i gystadlaethau 1 a 3-12: £10

Gwobrau eraill: Cadair Her, i’w chadw am flwyddyn, am y farddoniaeth orau (ac eithrio cystadleuaeth Pat Neill)

Cwpan Her Ben Owens am y darn rhyddiaith gorau

Trefn

Rhaid i bob ymgais unigol fod o dan ffugenw, gydag enw’r ymgeisydd ar wahân. Derbynnir cynigion drwy’r post arferol neu drwy e-bost.

Y cyfansoddiadau i’w hanfon at Carol Byrne Jones, Pencartws, Ffordd Tresaith, Aber-porth, Ceredigion SA43 2EB c.byrnejones257@btinternet.com 01239 811024

Dyddiad Cau: dydd Llun 14eg o Chwefror

Ewch ati.