Diwrnod Agored Gorsaf Dân Aberystwyth

Dim lle i droi yn niwrnod o hwyl Gorsaf Dân Aberystwyth

Doedd dim lle i droi yn niwrnod agored Ngorsaf Dân Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, 20fed o Awst 2022.

Ymysg yr adloniant roedd castell neidio, peintio wynebau, gwisgo fel ymladdwr tân, barbeciw a Draig ar ben yr ysgol

Roedd y digwyddiad wedi cael cymorth gan griw bad achub Aberystwyth a Heddlu Dyfed Powys.

Mae’r Orsaf am ddiolch i’r busnesau lleol am eich cefnogaeth i’r diwrnod agored, yn benodol Baravin, Cigydd Penparcau, Y Glengower, Marks & Spencer, Morrisons, Tesco a Superdrug. Gwerthfawrogir eu cefnogaeth yn fawr.