Diolch i siopwyr Aberystwyth!

Diolch i haelioni cwsmeriaid Morrisons, casglwyd cyfanswm o £1,165 mewn dau ddiwrnod yn unig gan wirfoddolwyr Clwb Rotary Ardal Aberystwyth.

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson

Y mis diwethaf, bu Clwb Rotary Ardal Aberystwyth yn Morrisons i gasglu arian ar gyfer dioddefwyr y rhyfel yn Wcráin, arian sydd mawr ei angen. Diolch i haelioni cwsmeriaid Morrisons, casglwyd cyfanswm o £1, 165 mewn dau ddiwrnod yn unig.

Mae Clybiau Rhyngwladol Rotary ledled y byd yn cefnogi Apêl Argyfwng Wcráin, a thrwy’r rhwydwaith o Glybiau Rotary yn agos at ffiniau Wcráin, mae’r holl arian a godir yn cael ei anfon yn uniongyrchol ar gyfer cyflenwadau meddygol a bwyd.

Mae gwaith codi arian Ardal Aberystwyth ar gyfer Wcráin yn parhau gyda £1, 600 wedi’i godi hyd yma a mwy o weithgareddau ar y gweill yn y dyfodol agos.

Dywedodd Barbara Salerno, Is-lywydd  Clwb Rotary Ardal Aberystwyth: “Mae caredigrwydd a chefnogaeth y siopwyr a’r staff yn Morrisons wedi bod yn arbennig.  Mae gwybod y bydd pob ceiniog yn mynd yn uniongyrchol i’r rhai sydd mewn angen yn galonogol iawn. Ar ran ein holl aelodau diolchwn yn fawr am bob cyfraniad.”

I gael gwybod mwy am weithgareddau Ardal Aberystwyth neu am fanylion ar sut i ymuno, cysylltwch â’r Llywydd: Kerry Ferguson ar info@ardalaberystwythrotary.cymru.