Dathlu Diwrnod y Llyfr 2022

Dathliadau Diwrnod y Llyfr 2022 ar draws Ceredigion

Mererid
gan Mererid

Y 3ydd o Fawrth oedd Diwrnod y Llyfr 2022, ac roedd y diwrnod yn dathlu 25ain o hyrwyddo darllen.

Siop Inc

I ddathlu eleni, penderfynodd Twm o Siop Inc ati i ail-ddychmygu rhai o gloriau llyfrau eiconig yr iaith Gymraeg. Byddant ar gael fel printiau cyfyngedig yn fuan a diolch am syniad gwreiddiol i hyrwyddo’r diwrnod.

Ffenest liwgar Siop Inc

Siop y Pethe

Yn ogystal â Siop Inc, roedd Siop y Pethe hefyd yn hyrwyddo’r 5 llyfr sydd ar gael am £1, a chofiwch fod tocynnau llyfrau i bob disgybl ysgol fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr. Bydd tocynnau llyfr £1 Diwrnod Llyfr yn ddilys o ddydd Iau 17 Chwefror tan ddydd Sul 27 Mawrth 2022 felly peidiwch â cholli eich tocynnau.

Mae pum llyfr Cymraeg arall ar gael am £1 eleni sef Lledrith yn y Llyfrgell gan Anni Llŷn (newydd eleni), Ha Ha Cnec! Jôcs Twp a Lluniau Twpach (Broga) gan yr awdur, darlunydd a chartwnydd Huw Aaron, Stori Cymru Iaith a Gwaith (Gwasg Carreg Gwalch) gan Myrddin ap Dafydd, Na, Nel! (Y Lolfa) Gan Meleri Wyn James a Darllen gyda Cyw (Y Lolfa) gan Anni Llŷn.

Mae’r llyfrau £1 hefyd ar gael mewn braille, print bras a sain trwy yr RNIB (Ffôn: 0303 123 999).

Ffenest Gwyl Ddewi Siop y Pethe

Llyfrgell Ceredigion

Fel rhan o ddathliadau 25ain, cyhoeddwyd llyfr Lledrith yn y Llyfrgell gan Anni Llŷn

Cafodd Emyr o Lyfrgell Ceredigion sgwrs gyda’r awdur Anni Llŷn am beth oedd wedi ei hysbrydoli.

Mae’r fideo ar gael yma drwy Facebook. Gallwch brynu Lledrith yn y Llyfrgell yn Siop Inc, Siop y Pethe neu unrhyw siop lyfrau arall, ac wrth gwrs drwy Gwales.

Cafodd Emyr hefyd sgwrs gydag Emily a Julia o lyfrgelloedd Newfoundland yng Nghanada. Gallwch wylio yma https://fb.watch/bwW_A_w57w/

Awduron

Tri o’r awduron lleol oedd yn cymryd rhan oedd Meleri Wyn James, Medi James-Jackson a Eurig Salisbury yn ogystal â’r darlunydd enwog Valeriane Leblond. Cewch glywed am beth mae darllen yn ei olygu iddyn nhw ac yn trafod y stori y tu ôl i’r stori. Maen nhw hefyd yn rhoi darlleniad byr ac yn gosod her greadigol.

 

Pecyn adnoddau

Dyw ddim rhy hwyr i chi feddwl am bethau i wneud, ac mae pecyn adnoddau ar gael drwy’r Cyngor Llyfrau

Adnoddau