Mae’n gyfnod cyffrous i’r Cyngor Tref yn Aberystwyth.
Agorwyd Maes Gwenfrewi i’r cyhoedd ar ôl cael ei adnewyddu dydd Sadwrn y 23ain o Orffennaf.
Mae’r Cyngor Tref yn paratoi i adnewyddu’r hen adeilad drws nesaf i’r parc sef yr hen Eglwys St Winefride’s. Prynodd y Cyngor Tref yr adeilad ar gyfer y gymuned a’i hailenwi’n Neuadd Gwenfrewi. Yn ogystal â’r gofod swyddfa sydd ei angen ar y Cyngor Tref (rydym yn rhentu gofod swyddfa ar hyn o bryd), rydym yn gobeithio y byddwch yn dweud wrthym beth yr hoffech ei weld yno.
O sgyrsiau anffurfiol gyda grwpiau a gwaith ymgynghori a wnaed hyd yn hyn, mae’r Cyngor Tref wedi adnabod man ymarfer a lleoliad cerddoriaeth ar gyfer yr eglwys, tra bod potensial enfawr ar gyfer y gofod sydd ar hyn o bryd yn hen gwt sgowtiaid a garej o ran adeiladu yn union beth sydd ei angen ar y gymuned.
Holiadur
Mae’r Cyngor Tref angen eich barn chi drwy lenwi’r holiadur byr yma.
Planhigion a blodau
Mae’r Cyngor Tref hefyd am wella’r pocedi o fannau gwyrdd yn Aberystwyth.
Maent wedi mabwysiadu gwelyau garddio a mannau gwyrdd amrywiol gan Gyngor Sir Ceredigion yn swyddogol. Fel cam cyntaf, plannwyd pamau’r prom â phlanhigion lluosflwydd sy’n gwrthsefyll halen. Efallai y bydd rhai planhigion angen eu hamddiffyn rhag stormydd y gaeaf, ond maent yn gobeithio y byddant yn ennyn diddordeb trwy gydol y flwyddyn wrth gynnal bywyd gwyllt.
Mae mannau eraill i’w gwella yn cynnwys y lawntiau o flaen Neuadd y Dref, gyda syniadau fel gerddi perlysiau ffurfiol yn cael eu hystyried, tra gallai pocedi eraill fod yn fwy addas ar gyfer dolydd blodau gwyllt.
Mae’r Cyngor Tref yn awyddus i wneud cymaint ag y gall i wneud Aberystwyth yn brydferth felly cadwch lygad am newyddion ar ddatblygiadau cyffrous pellach.