Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2022 mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Gwener 14 Hydref, diwrnod Shwmae Su’mae.
Cyflwynwyd pedair gwobr yn y digwyddiad; Dysgwr Disglair (Staff), Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle, Astudio trwy’r Gymraeg a Phencampwr y Gymraeg (Myfyrwyr).
Enwebwyd yr enillwyr gan staff a myfyrwyr y Brifysgol a derbyniodd pob un englyn personol gan yr Athro Mererid Hopwood neu gan y Darlithydd Ysgrifennu Creadigol Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.
Yn ogystal, cyflwynwyd Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig i nifer o fyfyrwyr a staff y Brifysgol am eu hymrwymiad i’r Gymraeg.
Enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2022 yw:
- Dysgwr Disglair (Staff) – Dr Ben Ó Ceallaigh
- Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Eirian Richards
- Astudio trwy’r Gymraeg –Jasmine Mills
- Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) – Luke Blaidd
Cyflwynwyd y gwobrau gan yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor y Brifysgol.
Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwyr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol:
“Mae Gwobrau Hybu’r Gymraeg yn gyfle pwysig i ni gydnabod ymdrechion unigolion o ran eu hymlyniad at y Gymraeg, eu defnydd ohoni yn y gweithle, wrth ddysgu ac astudio, a thrwy fod yn ysbrydoliaeth i eraill. Dyna nodwedd gyffredin yr enillwyr eleni eto ac rydym yn falch iawn o’r hyn maen nhw’n ei wneud a’r anogaeth mae hynny’n ei rhoi i eraill. Hoffwn longyfarch yr enillwyr eleni a llongyfarch hefyd yr unigolion sydd wedi derbyn Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb ac yn falch dros ben fod y Seremoni eleni yn cael ei chynnal ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae ac ar ddiwrnod pan mae’r Brifysgol yn dathlu 150 mlynedd ers ei sefydlu.”
Yr Enillwyr
Dr Ben Ó Ceallaigh (Dysgwr Disglair): Ac yntau’n frodor o Ros Comáin, Iwerddon, daeth Ben i Aberystwyth ym Medi 2020 i weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Darlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Dechreuodd fynychu gwersi Cymraeg gan gynnwys Cwrs Carlam dwys ac ymhen dim o amser roedd yn cyfathrebu gyda staff a myfyrwyr yn hyderus yn y Gymraeg. Ac yntau wedi ymgartrefu yn y dref, mae hefyd yn mwynhau cymdeithasu yn yr iaith ac yn annog pawb sy’n ei siarad i’w defnyddio ar bob cyfle. Mae’n siarad Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Manaweg a’r Gymraeg, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn adfywio iaith. Cwblhaodd Ddoethuriaeth yn y maes ym Mhrifysgol Caeredin ac mae ar fin cyhoeddi llyfr o’r enw Neoliberalism and Language Shift: Lessons from the Republic of Ireland post-2008.
Eirian Richards (Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle): Ac yntau’n hanu yn wreiddiol o ardal Llanafan, Ceredigion, mae Eirian bellach yn byw ar fferm deuluol yn ardal Llanddewibrefi. Mae wedi bod yn gweithio fel aelod o staff yn y Brifysgol er 1997. Bu’n gweithio ar ffermydd y Brifysgol hyd 2018 ac erbyn hyn mae’n Dechnegydd Maes yng Nghanolfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran. Mae’n Gymro Cymraeg sy’n hyrwyddo’r iaith yn frwdfrydig, gan wneud hynny mewn modd hwyliog a gafaelgar. Mae’n dysgu ac yn annog staff a myfyrwyr i ddefnyddio geiriau ac ymadroddion Cymraeg yn ystod gweithgareddau dyddiol. Cred Eirian ei bod yn holl bwysig i unigolion nad ydynt yn siarad yr iaith gael cyfle i’w chlywed a bod yn ymwybodol o fywyd a diwylliant y gymuned yn lleol.
Jasmine Mills (Astudio trwy’r Gymraeg): Bu Jasmine yn fyfyrwraig yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, gan raddio yn ystod yr haf. Fe’i magwyd yn ardal Rhydaman ac aeth i Ysgol Gynradd Saron ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Aman. Er mai Saesneg oedd iaith y cartref, roedd hi’n clywed y Gymraeg yn yr ysgol ac yn y gymuned yn lleol ac roedd hi’n awyddus i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol er mwyn datblygu ei sgiliau a’i hyder yn yr iaith. Yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig yn y Brifysgol, bu’n weithgar iawn yn hybu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg fel Swyddog y Gymraeg y Gymdeithas Ddaearyddiaeth, gan drefnu sesiynau dysgu Cymraeg i’r Adran. Mae’r Gymraeg yn holl bwysig i Jasmine, ac wedi iddi gwblhau ei chwrs hyfforddi i fod yn athrawes yng Nghaerdydd mae’n awyddus i gael gyrfa ddysgu yng Nghymru.
Luke Blaidd (Pencampwr y Gymraeg): Ac yntau wedi ei eni yn Stockport a’i fagu yng ngogledd Manceinion, mae Luke yn astudio Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n dod o aelwyd ddi-gymraeg, a Luke yw’r aelod cyntaf o’i deulu i siarad yr iaith. Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn iddo ac mae’n weithgar iawn yn hybu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg. Fel dyn traws roedd yn ymwybodol nad oedd llawer o eirfa LHDT ar gael yn y Gymraeg, felly aeth ati i ymchwilio a chwilota am eirfa mewn geiriaduron ac ar y we er mwyn creu terminoleg. Ei ddyhead yw cofnodi terminoleg LHDT i bawb yn y Gymraeg. Mae ei brosiectau hefyd yn cynnwys y Llyfr Enfys, sef Geiriadur Terminoleg LHDT yn y Gymraeg, yn ogystal â chynllun Trawsnewid gan Amgueddfa Cymru. Mae hefyd yn ysgrifennu blogiau ar gyfer Grŵp Hanes LHDT+ Cymru ynghyd â’i flog personol, sy’n seiliedig ar bynciau LHDT trwy gyfrwng y Gymraeg a hawliau traws. Mae hefyd yn unigolyn blaenllaw yng Nghymru ym maes LHDT a therminoleg ac mae wedi’i gynnwys yn Rhestr Binc Wales Online eleni.
Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig
Yn ogystal â dyfarnu enillwyr y gwobrau, cyflwynwyd Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig gan y panel i’r myfyrwyr
- Cairan Hughes, Adran y Gyfraith a Throseddeg
- Margaret Gwenllian Jenkins, yr Adran Gwyddorau Bywyd
ac i’r aelodau o staff
- Caroline White, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr;
- Dr Angharad James, Adran y Gyfraith a Throseddeg;
- Neil Morgan, Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd,
am eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.