Chweched nofel i awdur toreithiog o Dalybont

Fyddwch chi yn nabod tref ddychmygol Hergest?

Bydd nifer o drigolion Talybont yn adnabod Geraint Evans fel cyn-ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth ac am gyfnod yn Warden ar Neuadd Breswyl Pantycelyn, ond mae wedi bod yn awdur ers nifer o flynyddoedd.

Roedd ei nofel gyntaf, Llafnau (2010) wedi ei seilio yn Esgair-goch, gyda melinau gwynt (Bontgoch efallai?) yn gefndir i’r llofruddiaeth yn Elenid.

Nofel dditectif arall oedd yr ail, Nemesis (2011) ond wedi ei thargedu ar gyfer disgyblion uwchradd.

Diawl y Wasg oedd y nofel nesaf (2013) wedi ei seilio yn Aberystwyth, gyda Gareth Prior yn ymddangos fel ditectif eto yn Y Gelyn Cudd (2015), Y Gosb (2016) a Digon i’r Diwrnod (2018).

Wedi saib o 5 mlynedd, mae Geraint wedi dychwelyd gyda nofel a chymeriad hollol wahanol, Dr Rodrigo Lewis o Batagonia. Mae’r nofel wedi ei gosod yn Hergest, tref brifysgol ddychmygol yng Nghanolbarth Cymru. Daw’r Rodrigo i dreulio blwyddyn breswyl yno, ac i hel ei achau.

Mae Rodrigo o linach y rhai a hwyliodd i sefydlu’r Wladfa, yn fardd ac yn chwaraewr rygbi i un o brif dimau ei wlad mae’n ymddangos fel dewis perffaith. Ond yn sgil cyfres o helyntion gan gynnwys tarfu ar ymweliad brenhinol, mae arhosiad Rodrigo yn y fantol. Ond pan mae’n dod i wybod am gynlluniau cyfrinachol Prifathro Hergest i ddatblygu parc gwyliau ar dir cyfagos, mae hynny’n peryglu holl fodolaeth y Brifysgol. Mae’n nofel sy’n llawn cecru a gwrthdaro, sydd â chanlyniadau pwysig i’r gymuned gyfan.

Dywedodd Geraint

“Roeddwn i wastad eisiau ysgrifennu nofel wedi’i lleoli mewn prifysgol oherwydd fy ngyrfa fel darlithydd – nofel gyda dos dda o ddychymyg wrth gwrs!”

Mae’r nofel yn un hwyliog a dychanol, ac yn cynnig cipolwg ar fyd addysg uwch yn y Gymru gyfoes.

“Daeth syniad y nofel o’r awch i ysgrifennu rhywbeth gwahanol, er mwyn cynnig mwy o ddewis i ddarllenwyr Cymraeg – nofelau ditectif yn gyntaf, a nawr hon. Yn ganolog i’r plot mae’r prif gymeriad  yn cael ei osod mewn sefyllfa chwithig ac yn gorfod gwneud dewis anodd,”

Y Lolfa yw cyhoeddwyr y nofel ac mae ar gael yn eich siop lyfrau leol am £8.99.

Bydd Nia Peris hefyd yn holi Geraint yn yr Eisteddfod ar y 1af o Awst 2022 rhwng 11 a 12 ar stondin Prifysgol Aberystwyth.