Awdur lleol yn cyhoeddi cofiant i John Roderick Rees

Cofio’r Prifardd John Roderick Rees – Ceidwad y Ceyrydd: Tyddynnwr, Bardd, Athro

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Cyfrol ddifyr a gyhoeddwyd yn briodol iawn ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion oedd cofiant D. Islwyn Edwards, Aberystwyth, i’r Prifardd John Roderick Rees, Pen-uwch.

Cofir amdano’n arbennig fel enillydd dwy Goron Genedlaethol: y gyntaf yn Eisteddfod Llanbed yn 1984 am gerdd a ganai glod mewfudwyr am gadw’r ysgol leol yn agored a chynnal yr hen fythynnod, a fyddai, fel arall, yn furddunnod.

Yn ei bryddest ‘Y Glannau’, a enillodd iddo Goron Eisteddfod y Rhyl yn 1985, mae’n cyfleu profiadau ingol hen wraig oedd yn dioddef o’r clefyd dementia – y gerdd gyntaf ar y testun yn Gymraeg, mae’n debyg.

Mae’r gyfrol hon yn fwy na bywgraffiad – mae’n astudiaeth o feddylfryd dyn hynod oedd yn byw mewn bro arbennig mewn cyfnod arbennig. Er hynny, mae hi ymhell o fod yn blwyfol. Mae ardal Pen-uwch yn y cyfnod 1930–2000 yn feicrocosm o hanes ardaloedd mynyddig tebyg ledled Cymru.

Cawn ddarlun gonest a chynhwysfawr o John Roderick Rees, ei gryfderau a’i wendidau. Daw ei gryfderau’n amlwg fel athro, bridiwr cobiau a dyn ei filltir sgwâr a fynnodd ‘lynu’n glòs’ wrth gors y bryniau. Daw ei wendidau yr un mor amlwg: ei ragfarnau, ei ystyfnigrwydd a’i fethiant i faddau.

Mae yma bortread o Gardi diwylliedig yn ei gynefin, ‘ceidwad y ceyrydd’, amddiffynnwr yr hen werthoedd a roddodd groeso i’r Saeson i’w fro am mai nhw a’i hachubodd rhag dychwelyd i’w chyflwr gwyllt a chyntefig.

Daw’r awdur a’r ymchwilydd diwyd Islwyn Edwards o Ffair-rhos yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth. Mae i’w longyfarch yn fawr ar lunio campwaith gyda’r gyfrol swmpus hon.

Cyhoeddwyd Ceidwad y Ceyrydd gan Wasg Carreg Gwalch, ac mae’n fargen am £9.95