Mae ansawdd ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cynyddu’n sylweddol, yn ôl yr adolygiad diweddaraf o ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU.
Mae’r canlyniadau’n dangos bod ymchwil o’r radd flaenaf ym mhob maes academaidd, â phum adran, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Cyfrifiadureg, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, IBERS a’r Gwyddorau Mathemategol yn gydradd â neu’n uwch na chyfartaledd y DU (84%) am ymchwil sydd o ansawdd sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Mae bron i hanner allbynnau’r Ysgol Gelf o safon sy’n arwain y byd.
Mae’r ganran o’r holl ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu’n uwch wedi codi i 98% yn ôl canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 sydd wedi eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau 12 Mai 2022).
Mae mwy na thri chwarter yr ymchwil o ansawdd sydd yn arwain y byd (4*) ac yn rhagorol yn rhyngwladol (3*), cynnydd o 9 pwynt canran ar yr asesiad diwethaf yn 2014.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’r canlyniadau trawiadol hyn yn dyst i’r ymchwil a’r arloesi o safon sy’n arwain y byd yma yn Aberystwyth. Mae’n gydnabyddiaeth haeddiannol o waith ein harbenigwyr, y mae effaith eu gwaith i’w gweld ar draws y blaned. Rydym yn diolch o galon i’r holl ymchwilwyr a staff am eu gwaith caled.
“Ymchwil ac arloesi yw asgwrn cefn ein Prifysgol. Maent yn dyfnhau ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth, yn llywio ein dysgu a’n haddysgu, ac yn darparu manteision gwirioneddol i fywydau bob dydd yng Nghymru a’r byd yn ehangach.
“Mae hyn yn newyddion da iawn i’n myfyrwyr yn ogystal. Mae’n dangos eu bod yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr rhyngwladol – arweinwyr yn eu meysydd ac ymchwilwyr sydd nid yn unig yn rhannu’r hyn sy’n hysbys eisoes, ond hefyd yn gwneud darganfyddiadau newydd pwysig.”
Daeth clod hefyd i ran Adran y Gyfraith a Throseddeg am effaith ei hymchwil y tu hwnt i’r byd academaidd, gyda thri chwarter yr ymchwil yn cael ei ystyried o safon sy’n arwain y byd, y categori uchaf, ac i Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu lle mae tri chwarter yr amgylchedd ymchwil o safon sy’n arwain y byd.
Ar ddiwedd 2019, cymeradwyodd Prifysgol Aberystwyth Strategaeth Ymchwil ac Arloesi newydd uchelgeisiol sy’n mynd ati i adeiladu ar gryfderau hanesyddol y Brifysgol i fynd i’r afael â heriau cyfoes a chydweithio ar draws y byd academaidd, busnes a chymdeithas i helpu i wneud y byd yn lle gwell.
Bu oedi ar y gwaith oherwydd y pandemig COVID-19. Bellach, gyda chyfyngiadau wedi’u llacio, mae’r Brifysgol yn gweithio ar becyn o fesurau ychwanegol er mwyn cynorthwyo ymchwilwyr i adennill tir yn dilyn y pandemig.
Ychwanegodd yr Athro Treasure:
“Rydym yn uchelgeisiol iawn ar gyfer dyfodol ein hymchwil yma yn Aberystwyth a bydd ein buddsoddiad pellach mewn gweithgareddau ymchwil yn sbardun pwysig i’r Brifysgol dros y blynyddoedd i ddod. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd ein hymchwil i’r economi leol, ranbarthol a chenedlaethol. Gwyddom fod y llywodraeth wedi ymrwymo i ledaenu ffyniant ledled Cymru a’r DU yn ehangach, a bod gan brifysgolion ran bwysig iawn i’w chwarae wrth gyflawni’r agenda honno. Bydd Prifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn hyn wrth i ni barhau i symud ymlaen.”
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021
Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, a gyflwynwyd yn 2014, yn asesu ansawdd ymchwil sefydliadau addysg uwch y DU. Defnyddir y canlyniadau i feincnodi ansawdd ymchwil, darparu atebolrwydd ar y defnydd o arian cyhoeddus a llywio dyraniad cyllid llywodraeth i brifysgolion.
Ar gyfer asesiad 2021, gwerthuswyd tair elfen wahanol: ansawdd yr allbynnau ymchwil a gyhoeddwyd rhwng 2014 a 2020, effaith ymchwil y tu hwnt i’r byd academaidd, a’r amgylchedd sy’n cefnogi ymchwil.
Mae allbynnau ymchwil yn cynnwys erthyglau mewn cyfnodolion, llyfrau a phenodau mewn llyfrau, dyluniadau, arddangosfeydd a pherfformiadau.
Caiff ansawdd y gwaith ei gategoreiddio ar raddfa 5 pwynt, 4*-U, gyda 4* yn cynrychioli ymchwil sydd o safon sy’n arwain y byd o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd, ac U yn nodi ansawdd sydd islaw’r safon a gydnabyddir yn genedlaethol yn y DU.
Roedd yn ofynnol i bob aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd â chyfrifoldeb sylweddol am ymchwil gyflwyno ymchwil fel rhan o Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021.
Gwerthuswyd y gwaith gan baneli arbenigol ar gyfer pob un o’r 34 uned asesu pwnc, ac yn cynnwys academyddion profiadol, aelodau rhyngwladol a defnyddwyr ymchwil. Cyflwynwyd ymchwil gan 157 o sefydliadau addysg uwch yn y DU.