Dydd Gwener, 20fed o Fai 2022, penododd y Cynghorydd Brian Davies ei gabinet newydd i redeg Cyngor Sir Ceredigion sydd yn cynnwys: –
- Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phartneriaethau
- Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaeth Gydol Oes a Llesiant
- Cynghorydd Catrin M. S. Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid
- Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio• Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet ar gyfer y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael
- Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer y Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon
- Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
- Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Diogelu’r Cyhoedd
Mae 3 o’r cynghorwyr – Catrin, Keith a Matthew yn gynghorwyr newydd sbon – tra mae’r 5 arall yn dychwelyd i’r Cyngor. Dim ond Alun oedd yn aelod o’r Cabinet blaenorol, ac mae’n dod a llawer o sgiliau.
Mae’n dda gweld fod y Cabinet yn cynrychioli wardiau ar draws y sir, gydag Alun o Aberystwyth, Gareth o Lanbadarn a Catrin yn cynrychioli Ceulanmaesmawr yng ngogledd y Sir.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies:
“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â thîm da o Gynghorwyr a’r Aelodau Cabinet a benodwyd i roi buddiannau Ceredigion yn gyntaf. Mae’r Aelodau Cabinet eu hunain yn frwdfrydig ac yn barod i ddechrau ar eu gwaith.”