Bydd holl ddisgyblion Ceredigion yn cael eu haddysgu o bell o ddydd Llun, 20 Rhagfyr 2021, hyd at ddiwedd y tymor.
Gwnaed y penderfyniad hwn gan Gyngor Sir Ceredigion i ddiogelu plant, staff, teuluoedd a’r cymunedau trwy leihau cyswllt i atal lledaeniad y feirws.
Mae cyfradd achosion Ceredigion wedi dangos y cynnydd uchaf ond un o bob Awdurdod Lleol yng Nghymru dros y saith diwrnod diwethaf ac mae achosion o’r amrywiolyn COVID-19 newydd, sef Omicron, yn cynyddu’n gyflym yng Nghymru.
Arweiniodd hyn, ar y cyd â’r heriau dyddiol y mae ysgolion yn eu hwynebu, gan gynnwys absenoldebau staff, at benderfyniad i symud at ddysgu o bell er mwyn amddiffyn y gwasanaethau. Gwnaed y penderfyniad hwn gyda chefnogaeth lawn Undebau Prifathrawon ac Athrawon.
Gall plant gweithwyr allweddol a phlant bregus fynd i’r hybiau ysgol ar gyfer y tri diwrnod sy’n weddill, lle bo angen. Bydd rhagor o wybodaeth am y trefniadau’n cael eu rhannu’n uniongyrchol â rhieni gan y penaethiaid.
Bydd cymorth ar gyfer disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn parhau o ddydd Llun, 20 Rhagfyr 2021, a thros gyfnod y gwyliau Nadolig.
Darperir cyfarpar Technoleg Gwybodaeth i’r plant sydd ei arnynt eu hangen.
Mae’r Cyngor yn annog rhieni i gyfeirio eu plant i gael prawf os ydynt yn datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol:
- tymheredd
- uchel
- peswch
- newydd, parhaus
- colled neu newid i synnwyr blas neu arogl.
Dylai rhieni hefyd fod yn ymwybodol o symptomau cynnar eraill, tebyg i gur pen, blinder a phoenau cyffredinol eraill sydd fel arfer yn gysylltiedig â’r ffliw.
Mae’r Cyngor hefyd yn annog teuluoedd sy’n cwrdd â ffrindiau a theulu dros gyfnod y Nadolig i wneud y pethau sylfaenol i gadw ei gilydd yn ddiogel, gan gynnwys:
- Manteisio ar y ddau frechlyn, a chael eich pigiad atgyfnerthu pan gewch eich gwahodd i’w gael.
- Hunanynysu a threfnu prawf PCR os oes gennych symptomau.
- Os nad oes gennych symptomau, cymryd profion llif unffordd rheolaidd cyn mynd allan – boed hynny i barti Nadolig, siopa Nadolig, ymweld â ffrindiau neu deulu, mynd i fannau prysur neu cyn teithio.
- Cofio bod cwrdd y tu allan yn fwy diogel na chwrdd y tu mewn.
- Cadw pellter cymdeithasol lle bo hynny’n bosibl.
- Golchi eich dwylo.
- Gwisgo masg. Os ydych mewn tafarn neu fwyty, gwisgwch eich masg os nad ydych yn bwyta neu’n yfed.
- Gallwch gael profion llif unffordd am ddim o fferyllfeydd (nid oes angen archebu) neu trwy archebu ar-lein i’w cael trwy’r post o GOV.UK.