gan
Megan Lewis
Mae Llwybr yr Hen Domen yn daith gylchol fer sy’n addas ar gyfer cadair olwyn a chadair wthio.
Mae’n dilyn yr afon o gwmpas troed Pendinas hyd at hen domen y dref ac yna yn ôl ar hyd y Llwybr Ystwyth.
Dyma daith o tua 900 Medr gan ddechrau o ben heol Felin y Môr yn Rhydyfelin.
Hon yw’r diweddaraf yng nghyfres Taith Gerdded yr Wythnos Cyngor Sir Ceredigion
Cofiwch …
Er mwyn cadw eich hun ac eraill yn ddiogel, cofiwch wneud y canlynol:
- Cadw pellter cymdeithasol bob amser
- Parchu’r amgylchedd
- Dilyn y Cod Cefn Gwlad
Mae mwy o wybodaeth am gynllun ‘Taith Gerdded yr Wythnos’ ar gael ar dudalen Archwilio Ceredigion ar wefan y Cyngor.
Gallwch hefyd anfon neges e-bost i Countryside@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881 a gofyn am gael siarad ag aelod o’r tîm Arfordir a Chefn gwlad.
Pob hwyl ar eich taith!