Taith beics Prydain 2021 yn dod i Geredigion

Cefnogwch y beicwyr ar eu taith drwy Geredigion ar yr 8fed o Fedi.

Dydd Mercher, 8fed o Fedi 2021 – cadwch y dyddiad.

Mae taith beics enwog Tour of Britain 2021 ar y pedwerydd cam gyda taith o Aberaeron i Landudno.

Bydd y llwybr 215 cilomedr yn mynd â’r ras i rannau o ganol Cymru am y tro cyntaf yn hanes modern y Daith, gan gynnwys Aberaeron, y lleoliad cynnal cychwynnol yng Ngheredigion, Aberystwyth, Borth a’r Bermo.

Yn dechrau o Aberaeron am 10.45 y bore, dylent fynd drwy Benparcau am 11.15 gan fynd drwy Aberystwyth a chyrraedd Bow Street erbyn 11.30. Gallwch ddilyn yr amserlen yma. Bydd sprint trwy Borth cyn cyrraedd y ffin gyda Phowys erbyn 12.

Bydd y ras yn mynd trwy Barc Cenedlaethol Eryri ac esgyniad i ben y Gogarth gyda dringfa 1.9km, 9.8% ar gyfartaledd i’r diwedd.

Mae Ceredigion yn eithaf fflat o gymharu â gweddill y daith, ond gobeithio bydd pawb yn cymryd amser i gefnogi.