Wrth drosglwyddo’r awenau i Gadeirydd newydd Cyngor Sir Ceredigion: Paul Hinge, eglurodd y Cynghorydd Gareth Davies fod hon wedi bod yn flwyddyn gwbl anarferol yn sgil holl addasiadau a chyfyngiadau’r pandemig.
Disgrifiodd ei hun fel y Cadeirydd “nad eisteddod yn y gadair, na wisgodd y gadwyn, ac na gafodd y cyfle i gynrychioli’r sir mewn unrhyw ddigwyddiad swyddogol”.
Dyma daro golwg yn ôl ar flwyddyn y Cynghorydd Gareth Davies, ward Llanbadarn Fawr Padarn, a fu’n Gadeirydd yn ystod 2020-2021 a sut y bu’n rhaid iddo addasu i’r rôl.
Sut brofiad oedd bod yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ceredigion yn ystod cyfnod y pandemig?
Roedd yn brofiad go anarferol o gymharu â’r blynyddoedd a fu. Wrth gwrs, nid oedd neb yn rhag-weld sut effaith y byddai’r pandemig yn ei gael ar ein bywydau, na chwaith y byddai’n para mor hir. Rydym ni oll wedi gorfod addasu’r ffordd rydym yn byw ac yn gweithio. Roedd yn dipyn o siom na chefais y cyfle i gynrychioli’r sir mewn unrhyw ddigwyddiad swyddogol yn ystod fy nghyfnod. Fel un sydd â chysylltiadau ag ardal Tregaron, roedd hi hefyd yn drist clywed am ohirio’r Eisteddfod Genedlaethol. Ond, wedi dweud hynny, rwy’n falch ofnadwy fy mod yn byw yng Ngheredigion lle mae effeithiau’r pandemig wedi bod ymhlith y gorau yn y Deyrnas Unedig.
Beth oedd yr her fwyaf?
Yr her fwyaf oedd dysgu sut i gadeirio cyfarfod yn rhithiol. Gan fod mwy na hanner cant o bobl yn bresennol, nid oedd hi’n bosibl i weld pawb ar yr alwad ar yr un pryd. Roedd yn rhaid i bawb arall ddysgu hefyd wrth gwrs, ac, o ganlyniad, roedd y cyfarfodydd yn cymryd ychydig yn hirach na’r arfer. Rwy’n gobeithio fod aelodau’r Cyngor yn meddwl fy mod wedi bod yn Gadeirydd teg a bod pawb wedi cael y cyfle i siarad os oeddynt yn dymuno gwneud hynny. Mae pawb yn ymdopi â’r system yn dda iawn erbyn hyn.
Beth oedd y peth gorau am eich profiad?
Rwy’n ystyried fy hun yn freintiedig iawn, ac yn hynod o falch fod aelodau etholedig Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi’r cyfle i mi ac ymddiried ynof i fod yn Gadeirydd. Ni throdd y flwyddyn allan fel yr oeddwn wedi disgwyl. Ond mae diogelwch ac iechyd trigolion Ceredigion yn llawer pwysicach nag unrhyw beth arall.
Beth yw eich neges i’r Cadeirydd newydd?
Rwy’n gobeithio’n fawr iawn y caiff y Cadeirydd newydd gyfle i wneud cyfiawnder â’r swydd, a hoffwn ddymuno’n dda iddo ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.