Rhedwyr Aber yn ailgychwyn

Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb a phrin yw’r cyfleoedd i glybiau chwaraeon ddod at ei gilydd.

gan Deian Creunant
Clwb rhedeg AberystwythClwb Athletau Aberystwyth
Owain Schiavone ym marathon elite CaerMichael Hall

Owain Schiavone ym marathon elite Caer

Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb a phrin oedd y cyfleoedd i glybiau chwaraeon ddod at ei gilydd dros y deuddeg mis diwethaf. Ond wrth i’r niferoedd sydd wedi eu brechu gynyddu ac wrth i achosion o’r haint barhau i ostwng mae yna ychydig o oleuni ar ben draw’r twnnel ac mae clybiau chwaraeon yn awyddus i ailddechrau, er yn gwneud hynny’n bwyllog a gofalus.

Un o’r rhai yr effeithiwyd arnynt oedd Clwb Athletau Aberystwyth a oedd, cyn y pandemig, yn trefnu gweithgareddau bum noson yr wythnos ar gyfer pob oedran a phob gallu.

Yn ystod y cyfnod clo, bu hyfforddwyr yn brysur yn cynnig rhaglen barhaus o hyfforddiant rhithwir ond mae sesiynau grŵp ffurfiol i ddychwelyd y mis hwn fel yr esbonia’r cadeirydd Ian Evans:

Yn dilyn cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth Cymru, rydym yn falch o ddweud y bydd ein sesiynau rhedeg yn ailgychwyn ym mis Mai. Yn naturiol, byddwn yn glynu wrth ganllawiau perthnasol gyda niferoedd cyfyngedig a bydd angen archebu lle ymlaen llaw, ond mae’n gam pwysig i’r cyfeiriad cywir.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae llawer wedi troi at ymarfer corff i’w helpu gydag iechyd corfforol a meddyliol ac mae Ian yn disgwyl cynnydd yn y diddordeb:

Yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi ein cyfleoedd aelodaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, a thra bod hen aelodau’n awyddus i ddychwelyd i redeg fel grŵp rydym hefyd yn gweld aelodau newydd yn ymuno ar ôl dechrau rhedeg neu ddychwelyd at redeg dros y flwyddyn ddiwethaf.

Fel clwb cymunedol cyfeillgar, rydym yn croesawu hyn yn fawr iawn ac yn annog unrhyw un sy’n awyddus i redeg gydag eraill mewn criw cymdeithasol i gysylltu – byddai’n hyfryd eich gweld.

Mae rhai o’r rhedwyr eisoes yn gwneud eu marc wrth gynrychioli Aberystwyth mewn rasys a gynhaliwyd dros y ffin gyda Paul Williams ac Edward Land yn rhedeg marathon Shepperdine ac Owain Schiavone yn rhedeg marathon Elite Swydd Gaer.

Gorffennodd Ed Land mewn amser o 2:49:51 tra sicrhaodd Paul Williams ei amser gorau o 3.06.47. Yn ei farathon cyntaf, gorffennodd Owain Schiavone mewn amser gwych o 2:42:16.

Gobeithio bod gweld cynnal y rasys hyn yn arwydd o bethau gwell i ddod. Os hoffech glywed mwy am Glwb Athletau Aberystwyth ac ymuno yn ei weithgareddau ewch i aberystwythac.wordpress.com neu chwiliwch am y clwb ar Facebook.