Rhedeg 31 milltir? Newch e’n 62!

Nod Lowri o Langwyryfon oedd rhedeg 31 milltir mewn 31 diwrnod ym mis Gorffennaf, ond dim ond 27 diwrnod i mewn, mae hi’n barod wedi cwblhau 62 milltir.

Lowri Mererid Hopkins
gan Lowri Mererid Hopkins

Ar ddechrau’r mis, roedd rhedeg 31 o filltiroedd, a hynny drwy redeg bob dydd, yn edrych fel tipyn o sialens. Ond, mi ddes i i ben i gwblhau’r 31 milltir mewn 13 diwrnod!

Y nod ar ôl hynny oedd parhau i redeg bob dydd i weld pa mor bell fydden i’n gallu mynd mewn mis.

Fe ddaeth stop i’r rhedeg am un diwrnod yn dilyn ôl-effeithiau’r ail frechiad Covid, ond roedd yr esgidiau rhedeg nôl am y traed ac es i nôl mas i redeg hewlydd Llangwyryfon a Threfenter (a lawr i Aberaeron/Aberarth i gael awel y môr!).

Heddiw, mae’n ddiwrnod 27 ac rwyf wedi dyblu’r milltiroedd – ie, 62 milltir (bron 63!) mewn 27 diwrnod!

Mae’r ymateb rwyf wedi ei dderbyn gan deulu a ffrindiau hefyd yn arbennig, gyda’u cefnogaeth nhw, dw i wedi casglu £300 erbyn hyn.

Gyda 4 diwrnod yn weddill o’r mis, rwy’n mynd i barhau i redeg yn ddyddiol, a chawn weld faint o filltiroedd fydd wedi’u cwblhau erbyn nos Sadwrn.

Mae hi’n dal yn bosib i chi gyfrannu os ydych yn dymuno gwneud hynny, gallwch wneud hynny yma.

Mae cancr yn effeithio cymaint o fywydau, ac mae sawl person sy’n agos iawn at fy nghalon i yn mynd trwy driniaeth ar y funud, felly mae’r sialens yma wedi bod yn emosiynol ar brydiau, ond gyda’n gilydd, a thrwy sialensiau tebyg i hyn, rydym yn rhoi gobaith i’r rheiny sy’n dioddef ac yn dangos ein cefnogaeth iddyn nhw a’u teuluoedd.

Mae un peth yn sicr – gyda’n gilydd, fe allwn ni guro cancr!

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu yn barod ac i deulu a ffrindiau sydd wedi ymuno â fi ar ambell i ddiwrnod, ac wrth gwrs i Seren (fy nghi) sydd wedi rhedeg bob cam o’r ffordd gyda fi.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.