Wedi dros ddeunaw mis o gynnal ein gweithgareddau yn rhithiol, braf oedd cael cwrdd wyneb yn wyneb am daith undydd i dri o sefydliadau gwledig mwyaf adnabyddus ardal Aberystwyth ddydd Sadwrn y 9ed o Hydref.
Cychwynnwyd y bore ar fferm Cerrigcaranau Uchaf, Tal-y-bont gyda’r Teulu Jenkins lle cafwyd gwybod mwy am eu system godro organig a’u pwyslais ar iechyd a lles y fuches. Soniodd y teulu hefyd am eu menter ddiweddaraf i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch trwy werthu yn uniongyrchol i’r cwsmer o’u peiriannau llaeth wedi’u lleoli yn Aberystwyth a Machynlleth, a sut oedd cynnal y busnes yn llwyddiannus.
ArloesiAber ar gampws Gogerddan oedd galwad cyntaf y prynhawn lle cafwyd taith o amgylch rhai o gyfleusterau’r safle gan Phil Ellis, eu Rheolwr Offer a Gwasanaethau. Pwysleisiodd bwysigrwydd y safle ar gyfer ymchwil ym maes biowyddoniaeth, a sut eu bod yn gweithio gyda’r diwydiant ar gyfer datblygiadau mawr nesaf y maes.
Gorffennwyd y dydd ar Fferm Trawsgoed yng nghwmni Stephen Jones, Rheolwr Fferm Prifysgol Aberystwyth. Cafwyd trosolwg o’r newidiadau sydd wedi digwydd ar y safle yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar gyfer integreiddio technoleg robotig i uchafu effeithlonrwydd cynnal y fuches odro, a’u rôl yn rhan o’u gweledigaeth i gynnal fferm fasnachol gyda chyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf am y blynyddoedd i ddod.
Hoffai Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru a’r aelodau fu ar y daith ddiolch i’r holl westywyr am eu croeso cynnes, ac edrychwn ymlaen at y daith nesaf!