Noson Rwystredig i Aber

Aberystwyth 0 Bala 1 31/08/2021

gan Gruffudd Huw
Cic-rydd-i-Aberystwyth

Hyd yn hyn, mae wedi bod yn dymor eithaf addawol i Aber. Ar ôl ennill eu dwy gêm gyntaf, dim ond colli o un gôl wnaeth dynion Corbisiero yn erbyn gwrthwynebwyr cryf fel Cei Connah a’r Fflint (colli yn y funud olaf i gôl ddadleuol yn erbyn y Fflint). Mae’n amlwg fod Corbisiero wedi canolbwyntio ar gryfhau’r amddiffyn ac mae hyn yn dangos gan mae Aber yw’r cydradd ail amddiffyn gorau yn y gynghrair – dim ond wedi ildio pedair gôl!

Gyda’r Bala ar rediad siomedig i’w safon nhw (tair gêm gyfartal yn olynol), roedd yn argoeli i fod yn ornest agos ar Goedlan y Parc gyda’r stadiwm bron yn llawn cefnogwyr!

Ond dwy funud i mewn i’r gêm, cafodd Aber y cyfle cyntaf. Tarodd Jamie Veale y bêl ar y foli mewn safle peryglus ar ochr y cwrt cosbi, ond roedd hi’n arbediad hawdd i Ramsay yn y gôl i’r Bala. Tair munud wedyn cafodd Veale gyfle arall ond saethodd dros y trawsbren y tro yma. Dechrau addawol iawn i’r tîm cartref!

Ar ôl deng munud o chwarae, roedd hi’n edrych fel petai’r ymwelwyr wedi sgorio ac fe ddechreuodd llawer o gefnogwyr y Bala ddathlu. Tarodd Leslie gic rydd o gornel y cwrt cosbi a’i godi dros y wal yn berffaith. Chwibanodd heibio’r postyn a tharodd tu allan y rhwyd er mawr ryddhad i olwr newydd Aber Gregor Zabret.

Dechreuodd Bala reoli’r gêm ac ar ôl 27 munud o chwarae, nhw oedd ar y blaen. Pasiwyd y bêl i’r asgell chwith ble roedd Leslie yn rhydd. Croesodd Leslie’r bêl i mewn i’r ‘coridor ansicrwydd’ rhwng yr amddiffyn a’r golwr. Ceisiodd Alex Darlington ei glirio i Aber ond peniodd y bêl i rwyd ei hun.

Er gwaethaf y siom o ildio, bu bron i Aber ymateb yn syth gyda chyfle gwych i Harry Franklin. Chwaraewyd pêl hyfryd y tu ôl i’r amddiffyn ac fe wnaeth Franklin yn dda i amseru’i rediad yn berffaith er mwyn osgoi cam sefyll ac i fynd heibio’r amddiffynnwr. Dim ond y golwr oedd angen ei guro ond fe fethodd Franklin y targed gan rolio’r bêl heibio’r postyn.

Gyda’r hanner yn tynnu i ben, cafodd y tîm cartref gyfle gwych arall ar ôl 37 munud. Fe wnaeth Owen Orford yn dda i gadw’r bêl ar yr asgell dde cyn pasio i Jack Thorn tu fewn i’r cwrt cosbi. Yn anffodus saethodd Thorn dros y trawsbren ac ni fedrodd Aber ddod yn gyfartal cyn diwedd yr hanner.

Gyda’r gêm mor agos, roedd dechreuad da i’r ail hanner yn bwysig i Aber. A dyna a gafwyd gyda chanol y cae Aber yn rhoi llai o amser i Bala ar y bêl ac fe gafodd Jon Owen gyfle cynnar iawn ond saethodd yn llydan.

Daeth y cyfle nesaf i Aber ar ôl cornel gwych gan Matty Jones ond peniodd Franklin yn llydan. Roedd y Bala dal yn benderfynol o ennill a bu bron iddynt ddyblu’u mantais ar ôl 48 munud pan darodd ergyd Mendes oddi ar y trawsbren.

Ar ôl y cyffro cynnar yn yr ail hanner, ni welwyd llawer o gyfleoedd nodedig tan ar ôl 69 munud o chwarae pan beniodd Dave Edwards (a oedd yn rhan o garfan Cymru yn Ewro 2016) dros y gôl. Roedd y ddau amddiffyn yn ei wneud yn anodd i’r ymosodwyr ac roedd Zabret yn gadarn yn y gôl i Aber ac yn rheoli’r cwrt cosbi gan ddal neu dyrnu’r croesiadau i ffwrdd.

Gyda phedair munud o amser ychwanegol, roedd digon o amser i Aber sgorio’r gôl dyngedfennol ac yn wir, roedd hi’n edrych fel petai’r tîm cartref wedi llwyddo i wneud hyn. Gwelwyd croesiad arbennig gan Jonny Evans oddi ar yr asgell dde i mewn i’r cwrt cosbi. Er gwaethaf yr holl grysau gwyrdd, methodd yr ymosodwyr i gael ergyd clir at y gôl ac fe gliriodd amddiffyn y Bala i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Gêm agos unwaith eto i Aber yn erbyn un o dimau cryfach y Gynghrair ar bapur.  Mi fydd tîm Corbisiero yn gobeithio ennill eu gêm nesaf gartref yng Nghwpan JD yn erbyn Aber Valley (dydd Sadwrn).

Croeso i chi ychwanaegu eich sylwadau ar y gêm isod.