Gŵyl Nadolig Eglwys Ysbyty Cynfyn

Clyma ni’n un oedd thema’r ddefged Ŵyl.

Trosglwyddo dwy flanced a wnaed gan ddisgyblion Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd.

Yr oeddem yn llawen a diolchgar ein bod wedi medru dathlu ein degfed Ŵyl Nadolig eleni, pan ddaeth eglwysi, capeli, ysgolion, mudiadau a ffrindiau’r fro at ei gilydd i wireddi ein thema sef “Clyma ni’n un’.  Derbyniom eitemau wedi ei gwneud trwy wau, crosio, a gwnïo, i fabanod a’r hen oed.  ‘Roedd yna fwndel babi wedi ei roi at ei gilydd gan lawer hefyd.  Mae’r ymateb wedi bod yn syfrdanol, a phawb wedi bod yn hael iawn yn ei rhoddion.  Gosodwyd y cyfan i’w harddangos yn yr eglwys ac yr oedd yr holl gynnyrch creadigol yn wledd i’r llygaid.

Daeth amryw i ymweld â ni a chael mwynhad o weld haelioni’r gymuned a ffrindiau yn y modd hwn.

Bu llawer yn ein cefnogi trwy brynu ticedi raffl ymlaen llaw ac y mae’r rhai llwyddiannus  wedi mwynhau derbyn y rhoddion amrywiol a gwerthfawr oddi ar y rhestr.

Cawsom wasanaeth Garolau nos Sul o dan ofal Y Parch Fran Croxon-Hall a hyfryd oedd cael dechrau’r gwasanaeth gyda hithau yn ein harwain yn yr emyn “Clyma ni’n un o Dduw.” Cymerwyd rhannau o’r gwasanaeth gan ein haelodau a ffrindiau.

Diolch i bawb a fu yn gysylltiedig â’r Ŵyl, am yr holl garedigrwydd a chyfeillgarwch tuag at ein hapêl, gan sicrhau fod llwyddiant a bendith yr Ŵyl yn lledaenu i bawb a fydd yn derbyn o’r eitemau arbennig yma, sydd wedi ei rhoi a’i gwneud mewn cariad.

Mae’r eitemau i fabanod wedi eu trosglwyddo i Undeb y Mamau, Eglwys Santes Anne, Penparcau, lle y lleolir adran elusen “Plant Dewi”.

Byddant yn cael eu dosbarthu oddi yno i deuluoedd sydd eu hangen yn yr ardaloedd cyfagos.

Dosberthir y blancedi  pen-lin i gartrefi gofal yr ardal yn y flwyddyn newydd.

Diolch i Delyth Morris Jones am grynhoi hanes yr ŵyl.

Rhai o’r cotiau bach oedd wedi eu gweu i fabanod
Coeden Nadolig wedi ei haddurno a hetiau i fabanod